Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Barn y cyhoedd yn cael ei cheisio am safle parcio a theithio newydd yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe yn gwneud cynlluniau i adleoli un o'i safleoedd parcio a theithio yng Nglandŵr.

Landore park and ride

Mae'r safle presennol wedi'i glustnodi ar gyfer ailddatblygiad fel rhan o raglen adfywio gyfredol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y mae rhan o'r safle hanesyddol eisoes wedi'i ddatblygu'n safle newydd ar gyfer cwmni distyllu enwog Penderyn.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cychwyn bellach i geisio barn defnyddwyr y gwasanaeth parcio a theithio fel y gall safle newydd ddiwallu anghenion teithwyr yn y dyfodol.

Mae dau safle amgen ar gael ym Mro Tawe lle gellir adleoli'r safle parcio a theithio .

Mae'r ddau safle posib yn Blawd Road a Heron Drive yn agosach at yr M4 ac mae posibilrwydd y gallent gynnwys dros 1,300 o leoedd parcio.

Mae'r cyngor am glywed yn awr gan y cyhoedd fel y gellir ystyried eu barn cyn iddynt benderfynu ar ba safle a ddewisir.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae angen y safle parcio a theithio presennol yng Nglandŵr fel rhan o waith tymor hwy i adfywio safle'r Gwaith Copr.

"Erys parcio a theithio'n flaenoriaeth i'r cyngor o ran darparu opsiynau teithio cynaliadwy i bobl sydd am ymweld â chanol y ddinas at ddibenion gwaith neu hamdden.

"Mae'r safle'n cynnig mynediad gwych yn syth o'r M4, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr ac ymwelwyr eraill barcio y tu allan i ganol y ddinas a defnyddio cludiant cyhoeddus i barhau â'u taith i ganol y ddinas.

"Datblygwyd ein safleoedd parcio a theithio presennol yng Nglandŵr ac ar Fabian Way flynyddoedd lawer yn ôl a chawsant eu gwella dros amser i ddarparu cyfleusterau i feicwyr a gosodwyd mannau gwefru cerbydau trydan ynddynt hefyd.

"Rydym yn awyddus i glywed gan fodurwyr am eu hanghenion a'u gofynion cyn datblygu'r safle newydd a byddwn yn annog pawb sy'n defnyddio parcio a theithio i fod yn rhan o hyn."

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus ar adleoli safle Parcio a Theithio Glandŵr tan 30 Tachwedd a gellir ei gyrchu yn www.abertawe.gov.uk/arolwgparcioatheithio

 

Close Dewis iaith