Abertawe'n dod ynghyd ar gyfer y Nadolig
Mae Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn.
Mae JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 6 Rhagfyr i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl yn Abertawe sy'n ddiamddiffyn, yn teimlo'n ynysig neu a all fod yn ddigartref.
Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng canol dydd a 3pm, a bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael.
Ar hyn o bryd mae mwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen ar gael yn Abertawe i helpu pobl ddigartref neu unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'i bartneriaid i sicrhau nad oes unrhyw un sydd angen neu sydd eisiau gwely neu lety yn Abertawe yn mynd hebddynt y gaeaf hwn.
Meddai Jessica Rice, Cyfarwyddwr JR Events and Catering, "Mae'r digwyddiad hwn bellach yn ei 6ed flwyddyn, ac er bod y cyfnod hwn yn anodd ar gyfer ein diwydiant ni hefyd, ni allwn sefyll yn ôl a pheidio â helpu ar ôl i ni weld yr hapusrwydd a'r gefnogaeth sy'n dod yn sgîl y digwyddiad hwn yn flynyddol."
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Yn ystod y cyfnod heriol hwn byddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu pobl gyda'r argyfwng presennol ac i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn, a hoffwn ddiolch i JR Events and Catering am gynnal y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig unwaith eto a'n gwahodd i weithio gyda nhw."
I wirfoddoli, i gael rhagor o wybodaeth, neu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu gyfraniad, cysylltwch â Shannon Williams drwy e-bostio events@jr-eventsandctering.co.uk, neu ffonio 01792 446017.