Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau i gefnogi grwpiau sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd

Mae grantiau newydd ar gael i hybu mentrau bwyd cymunedol presennol sy'n cefnogi pobl yn Abertawe sy'n wynebu tlodi bwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Cooking - generic image from Canva

Cooking - generic image from Canva

Gall elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd bellach wneud cais am gyfran o'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol gwerth £41,400 a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar weithgareddau sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd.

Gallai grantiau cyfalaf gael eu defnyddio i ariannu eitemau fel oergelloedd a rhewgelloedd neu i sicrhau mannau storio ychwanegol.

Gallai cyllid refeniw gael ei ddefnyddio i brynu bwyd o safon a nwyddau hanfodol yn ogystal â thalu gorbenion a threuliau gwirfoddolwyr. Gallai hefyd ariannu'r gwaith o ddatblygu hybiau cymunedol, archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio, dosbarthiadau coginio cymunedol a gwaith allgymorth.

I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthBwydUniongyrchol

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Gyda biliau tanwydd yn cynyddu yn ogystal â chostau bwyd, morgeisi a rhent, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn wynebu caledi go iawn.

"Yn ffodus, yn Abertawe mae gennym elusennau, grwpiau a sefydliadau gwych sy'n gweithio'n galed iawn i helpu i sicrhau bod gan bobl fwyd i'w fwyta.

"Rwy'n gwybod bod eu gwasanaethau'n wynebu galw na fu erioed o'r blaen, felly rwy'n ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am ddod o hyd i arian ar gyfer y grantiau hyn."

Disgwylir nifer mawr o geisiadau ar gyfer y grantiau hyn felly awgrymir i chi wneud cais am hyd at £1,100. Asesir pob cais yn ôl ei werth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 18 Tachwedd 2022.

I gysylltu â'r Gwasanaeth Trechu Tlodi e-bostiwch: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith