Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau Abertawe i elwa o raglen atgyweirio ffyrdd ledled y ddinas

Mae criwiau atgyweirio priffyrdd wedi cychwyn ar daith chwe mis o amgylch Abertawe i fynd i'r afael â rhai o ddiffygion ffyrdd gwaethaf y ddinas.

patch

Mae'r criwiau atgyweirio ffyrdd yn rhan o raglen cynnal a chadw priffyrdd PATCH Cyngor Abertawe sy'n gweithredu'n flynyddol gan fynd ati i atgyweirio diffygion ffyrdd mwy mewn cymunedau ledled y ddinas.

Bydd y tîm yn treulio hyd at bythefnos ym mhob ward yn Abertawe gan ddechrau ym Mhontarddulais a Thre-gŵyr cyn symud ymlaen i'r Cocyd a Gorseinon.

Daw'r cynllun i ben ym mis Ebrill 2023 pan fydd y criwiau cynnal a chadw yn ymweld â Llansamlet a'r Glannau (Marina Abertawe).

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein cynllun atgyweirio ffyrdd, PATCH, yn ffordd wych i'r cyngor fynd i'r afael ag atgyweiriadau ym mhob cymuned yn y ddinas.

"Mae'r atgyweiriadau wedi'u cynllunio, yn seiliedig ar archwiliadau a wnaed gan ein timau Priffyrdd, yn ogystal â dibynnu ar wybodaeth a roddir i ni gan y cyhoedd a chynghorwyr ward.

"Mae'n system wych sy'n rhoi'r cyfle i ni dreulio cryn dipyn o amser ym mhob cymuned, gan wneud yn siŵr bod rhai o'r diffygion gwaethaf yn cael eu cywiro a helpu i ymestyn oes ein rhwydwaith ffyrdd."

Mae'r rhaglen PATCH yn un o nifer o fentrau atgyweirio priffyrdd y mae'r cyngor wedi ymrwymo iddynt ar gyfer 2022/23 ar ôl cymeradwyo buddsoddiad gwerth £6.4 miliwn ar gyfer ffyrdd Abertawe yn ystod cytundeb cyllideb yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae £700,000 yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun PATCH drwy'r gyllideb Cynnal a Chadw Priffyrdd, gyda £300,000 ychwanegol yn cael ei roi o Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor.

Mae cynlluniau mawr i ailwynebu ffyrdd hefyd yn cael eu cwblhau eleni gyda £1.3m yn cael ei wario ar ffyrdd.

Bydd £750,000 hefyd yn cael ei wario ar wella draeniad mewn cymunedau ac uwchraddio goleuadau stryd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Rydym wedi ymrwymo buddsoddiad sylweddol yn ein hisadeiledd priffyrdd eleni, ar adeg pan fo cyllid yn gyfyngedig. Rwy'n meddwl bod hyn yn dangos yr ymrwymiad rydym yn ei wneud i sicrhau bod gan gymunedau ffyrdd a phalmentydd o ansawdd da a'u bod yn cyfrannu at gymunedau mwy diogel ledled y ddinas. Mae hyn yn flaenoriaeth i ni."

Gall preswylwyr roi gwybod i'r cyngor am ddiffygion ffyrdd drwy fynd ar-lein a gallant hefyd weld ar ba ddyddiadau arfaethedig y mae'r timau PATCH yn bwriadu ymweld â'u cymunedau drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/patch

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2022