Toglo gwelededd dewislen symudol

Goleuadau newydd ym Mae Abertawe yn ystod y nos

Bydd promenâd golygfaol Bae Abertawe'n cael ei oleuo gyda'r nos o'r Mwmbwls yr holl ffordd i faes chwarae San Helen.

swansea bay lights

swansea bay lights

Mae'r llwybr cerdded a beicio poblogaidd yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr bob wythnos. Yn ystod y nosweithiau mae'r llwybr yn dywyll iawn sy'n golygu ei fod yn llai dymunol i'r rheini sydd am fentro allan gyda'r nos.

Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu gosod 304 o golofnau goleuo LED ynni effeithlon ar hyd y llwybrau cerdded a beicio poblogaidd fel y gall pobl ymweld yn ystod y dydd a'r nos.

Bydd y gwaith i osod y goleuadau'n digwydd yn ystod y misoedd nesaf a bydd yn trawsnewid y prom i filoedd o ymwelwyr.

Mae colofnau goleuo newydd eisoes wedi'u gosod ar ran o'r llwybr sy'n filltir o hyd yn West Cross ar ôl i aelodau ward lleol fuddsoddi arian o gynllun budd cymunedol y cyngor i osod y goleuadau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Bae Abertawe'n gyrchfan poblogaidd i bobl leol ac ymwelwyr â'r ardal.

"Mae'r promenâd yn croesawu miloedd o bobl bob wythnos gyda llawer yn cerdded, yn gwthio pramiau, yn mynd â'u hanifeiliaid anwes am dro neu'n beicio rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls.

"Mae rhan milltir o hyd yn West Cross wedi cael ei gwella drwy osod goleuadau'n ddiweddar. Rydym bellach wedi penderfynu buddsoddi mewn gosod hyd yn oed mwy o oleuadau rhwng San Helen a'r Mwmbwls.

"Rwyf hefyd yn falch bod y goleuadau newydd wedi'u dewis oherwydd eu rhinweddau ynni effeithlon. Rydym wedi amcangyfrif y bydd pob golau yn costio £15 y flwyddyn o ran defnydd ynni, gan wneud hwn yn ddull cost effeithiol gwych o wella'r llwybr, gan helpu pobl i deimlo'n llawer mwy diogel yn y nosweithiau."

Bydd y promenâd hefyd yn elwa o waith uwchraddio mawr i'r morglawdd yn y blynyddoedd i ddod, gyda chynlluniau i hybu'r amddiffynfeydd môr rhwng Knab Rock a Sgwâr Ystumllwynarth.

Bydd y cynlluniau hefyd yn ceisio ailfodelu'r rhan o'r promenâd ar hyd y llwybr fel ei fod fod yn haws i gerddwyr a beicwyr ei ddefnyddio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Bydd gwelliannau gweledol i'r ardal yn creu glan wyrddach, gynaliadwy ac atyniadol - bydd yn gaffaeliad i'r gymuned leol ac yn atyniad i ymwelwyr.

"Bydd yr amddiffynfeydd môr gwell yn amddiffyn cartrefi, busnesau ac ardaloedd hamdden rhag effeithiau lefelau môr cynyddol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy."