Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhieni sy'n gweithio'n cael eu hannog i hawlio cymorth costau gofal plant

Mae llawer o rieni neu ofalwyr sy'n gweithio yn Abertawe nad ydynt yn hawlio'r arian y mae hawl ganddynt iddo tuag at gostau gofal plant.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Mae Cyngor Abertawe bellach yn annog rhieni i wirio a ydynt y gymwys oherwydd gallant fod yn colli'r cyfle i gael cannoedd o bunnoedd y gallent ei ddefnyddio i helpu i dalu tuag at ofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, lleoliadau cyn ysgol, meithrinfeydd a nanis, cynlluniau chwarae, clybiau cyn ac ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.

Mae Gofal Plant Di-dreth Llywodraeth y DU yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio, gan gynnwys yr hunangyflogedig, gyda chostau gofal plant.

Os yw rhiant neu ofalwr sy'n gweithio'n ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac o dan £100,000 y flwyddyn, efallai y bydd yn gymwys i gael £500 bob tri mis tuag at ei gostau gofal plant.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Dengys data fod llawer o deuluoedd sy'n gweithio yn Abertawe naill ai ddim yn ymwybodol o'r cynigion cymorth Gofal Plant Di-dreth ar gyfer plant hyd at un ar ddeg oed, neu ddim yn gwneud defnydd ohono. 

"Byddwn yn eu hannog i wirio i weld a ydynt yn gymwys ac os ydynt, i hawlio'r cymorth hwn gan y bydd yn helpu yn ystod y misoedd anodd o'u blaenau."

I wirio cymhwysedd ac i gael gwybod sut i gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i www.childcarechoices.gov.uk

Close Dewis iaith