Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig teithio ar fysus am ddim dros y Nadolig ar y ffordd i Abertawe

Gall siopwyr sy'n mynd i ganol dinas Abertawe y Nadolig hwn deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

christmas free bus welsh

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd y cynnig cludiant cyhoeddus Bysus am Ddim Abertawe yn dychwelyd ar gyfer y Nadolig ac mae'n dilyn menter teithio am ddim lwyddiannus a gynhaliwyd drwy gydol gwyliau'r haf.

Gan ddechrau dydd Sadwrn, (19 Tachwedd), bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig a bydd yn parhau am 5 niwrnod yn ychwanegol rhwng 27 a 31 Rhagfyr.

Mae'r cyngor yn annog y cyhoedd i ddefnyddio'r cynnig bysus am ddim mewn ymdrech i leihau'r caledi ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu yn ystod yr hinsawdd economaidd barhaus.

Croesawodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y cynnig diweddaraf ac mae'n gobeithio y bydd pawb yn manteisio arno. Meddai, "Dyma'r ail dro rydym wedi darparu cludiant am ddim i deuluoedd yn Abertawe dros y Nadolig.

"Gall y Nadolig fod yn adeg ddrud i bawb, ac mae'n ddrutach nag erioed gan ein bod yn dal i brofi cynnydd mewn costau byw. Rydym yn ymroddedig i sicrhau y gall teuluoedd yn Abertawe arbed ychydig o arian ar gostau teithio, gadael y car gartref ac arbed eu harian petrol ar gyfer cyfnod yr ŵyl.

"Nid denu pobl i ganol y ddinas yw unig ddiben y cynnig hwn, ond rydym am i fusnesau elwa o weld mwy o bobl yn dod i'r ddinas. Mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd deithio ar draws Abertawe i ymweld â theulu neu fwynhau'r hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig."

Mae'r ffigurau diweddaraf yn amcangyfrif bod cynigion teithio ar fysus am ddim yn y gorffennol wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus, gyda nifer y teithwyr yn cynyddu 30% o'i gymharu ag adegau eraill.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Un o'r prif nodau yw annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn Abertawe.

"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teithio mewn car, ac efallai nad ydynt wedi bod ar fws o'r blaen. Mae'r cynnig am ddim hwn yn ffordd wych o gyflwyno mwy o bobl i gludiant cyhoeddus a lleihau nifer y ceir ar ein ffyrdd.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cefnogi gweithredwyr cludiant cyhoeddus yn Abertawe ac yn gwneud popeth y gallwn i gynyddu nifer y teithwyr."  

Mae rhagor o wybodaeth am gynnig bysus am ddim Abertawe yn: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Find out more about the free bus offer for Swansea at https://www.swansea.gov.uk/freebuses