Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi lansio ei arolwg cymunedol blynyddol.
Nod yr arolwg yw gofyn am adborth gan y cyhoedd am:
•yr hyn y gellir ei wella i wneud i bobl deimlo'n ddiogel ble bynnag maen nhw'n byw, yn gweithio, neu'n treulio amser yn Ne Cymru
• eu barn a'u profiadau o drafod gyda'r heddlu yn eu hardal leol
• eu barn am yr opsiynau sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr elfen blismona o daliadau treth gyngor (y "praesept").
Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn ddefnyddiol fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer gosod praesept heddlu 2023/24, yn ogystal â'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddarparu gwaith Plismona Cymdogaeth a Diogelwch Cymunedol. Bydd yn rhoi dealltwriaeth ehangach i'r Comisiynydd a'i dîm o'r materion sy'n gwneud i bobl deimlo'n anniogel a sut rydym yn gweithio gyda'r heddlu a'r sefydliadau lleol i ddeall yn well ble a sut y dylid targedu adnoddau i gadw cymunedau'n ddiogel a darparu sicrwydd.
Mae'r manylion ynglŷn â sut i gymryd rhan yn yr arolwg wedi'u cynnwys isod:
Arolwg ar-lein: Ein Heddlu, Ein Cymuned 2022 (southwalescommissioner.org.uk)
Gofynnwch am gopi papur:01656 869366 / engagement@south-wales.police.uk