Llawer o bensiynwyr yn colli'r cyfle i gael arian ychwanegol
Mae llawer o bensiynwyr yn Abertawe yn dal i golli'r cyfle i gael yr arian ychwanegol y mae ganddynt hawl iddo.
Mae Cyngor Abertawe yn annog pobl 66 oed ac yn hŷn i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn.
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi help ychwanegol gyda chostau byw i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth y mae eu hincwm yn isel.
Efallai gall pobl gael help ychwanegol os ydynt yn ofalwr, yn ddifrifol anabl neu'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom a gwyddwn fod pensiynwyr yn Abertawe sy'n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd, ac eto'n colli'r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo."
Mae'r cyngor wedi partneru â Kin Cymru sy'n darparu gwasanaeth cyngor dros y ffôn gydag apwyntiadau i helpu pobl gyda budd-daliadau.
Ffoniwch 01792 485110 rhwng 9.45am a 2.15pm ar ddydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyngor ar-lein hefyd yn https://llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw
Fel arall, ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.gov.uk/pension-credit