Toglo gwelededd dewislen symudol

Dirwy i fusnes yn Abertawe a oedd yn defnyddio troli siopa i storio gwastraff

Mae bwyty poblogaidd yng nghanol dinas Abertawe wedi cael ei ddirwyo am beidio â chael gwared ar ei wastraff masnachol yn iawn.

las iguanas

Bu'n rhaid i reolwyr yn Las Iguanas yn ardal y Castell ymddangos gerbron Ynadon Abertawe lle pledion nhw'n euog i dair trosedd o dorri hysbysiad a roddwyd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd.

Roedd y tair trosedd yn ymwneud â methiannau blaenorol gan y cwmni i reoli'i wastraff masnachol y tu ôl i'r eiddo.

Yn ystod ymweliadau gan Swyddogion Gorfodi Gwastraff Cyngor Abertawe, a oedd yn ymestyn yn ôl i fis Gorffennaf 2021, gwelodd swyddogion bentyrrau o sachau du a chardbord yn gorlifo o finiau olwynog masnachol, ac ar un achlysur, roedd y cwmni wedi bod yn defnyddio troli siopa a adawyd i storio'u gwastraff.

Ar bob achlysur, rhoddwyd hysbysiadau cosb benodedig o £180 i reolwyr yn yr eiddo, a dalwyd gan y cwmni wedi hynny. Fodd bynnag, ar y trydydd achlysur, teimlwyd bod y cwmni wedi anwybyddu gofynion yr hysbysiad cosb benodedig ac fe'i gwysiwyd i'r llys.

Arweiniodd yr achos llys diweddar at ddirwy o £750 i'r cwmni am bob trosedd, ynghyd â chostau o £334.50 a gordal dioddefwr o £900 - sef cyfanswm o £3484.50.

 Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae gan fusnesau yn ein dinas gyfrifoldeb i reoli'u gwastraff yn iawn, yn enwedig y rheini sy'n gweini bwyd poeth.

"Os nad ydynt yn gwneud hyn ac os nad ydynt yn darparu digon o finiau gwastraff masnachol, gallant ddenu plâu fel llygod mawr. Mae hyn yn annerbyniol ac yn annheg ar fusnesau eraill sy'n gwneud y peth iawn.

"Mae'r cyngor yn gweithio'n galed i gadw canol y ddinas yn lân, gan anfon criwiau casglu sbwriel allan bob dydd i ymdrin â symiau mawr o sbwriel a gwastraff. Mae angen i fusnesau weithio gyda ni fel bod canol y ddinas yn aros yn lle croesawgar a diogel i bawb.

"Y gobaith yw y bydd y camau gweithredu diweddaraf a'r cosbau ariannol a ddyfarnwyd yn erbyn y cwmni hwn yn anfon neges gref i fusnesau eraill i sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn wrth reoli'u gwastraff masnachol."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Tachwedd 2022