Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe'n mynd i'r afael â digartrefedd yn uniongyrchol

Mae ymdrechion i fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe'n parhau gyda'r cyngor yn addo darparu llety i'r rheini y mae ei angen arnynt.

homelessness plans

Mae'r addewid a wnaed gan Gyngor Abertawe cyn cychwyniad pandemig COVID yn 2020 wedi arwain at bron 1,100 o aelwydydd yn cael eu symud o lety dros dro i lety parhaol.

Dengys yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y cyngor fod 192 o aelwydydd mewn llety dros dro ac maent i gyd yn cael eu cefnogi wrth iddynt gael cymorth i symud i gartrefi mwy parhaol.

Yn ogystal â defnyddio tai cyngor presennol i ddarparu'r trefniadau dros dro, mae'r cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid LlC i greu cyfres o bodiau tai arloesol sy'n gallu darparu llety i bobl sengl. Defnyddiwyd cyllid hefyd i brynu fflatiau a fu'n eiddo i'r cyngor yn flaenorol i ddarparu llety i bobl sengl i'r rheini mewn angen.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Cydnabuom yn gyflym yr heriau y mae'r cyhoedd yn eu hwynebu wrth sicrhau cartrefi, yn enwedig yn ystod y pandemig.   Roedd cyllid Llywodraeth Cymru wedi'n galluogi i roi cynllun ynghyd i greu rhagor o dai yn y ddinas.

"Mae hyn wedi bod o fudd enfawr o ran darparu llety dros dro i'r rheini sy'n dod yn ddigartref a hefyd i sicrhau bod y rheini mewn llety dros dro yn gallu symud i gartrefi parhaol.

"Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi symud mwy na 1,000 o aelwydydd i lety parhaol, gan helpu teuluoedd a phobl sengl i gael lle diogel a chysurus i fyw.

"Mae mwy na 70 uned llety newydd wedi'u creu, gan gynnwys rhai a ddarparwyd gan landlordiaid tai cymdeithasol sy'n gweithio gyda'r cyngor i fynd i'r afael â phroblem digartrefedd."

Yn fwy diweddar, cytunodd y cyngor ar gynllun pedair blynedd newydd sef Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai, sy'n amlinellu sut bydd yn helpu'r rheini mewn perygl o fod yn ddigartref yn ogystal â helpu'r rheini sy'n cysgu ar y stryd.

Mae'r strategaeth a'r cynllun gweithredu a fydd yn arwain y cyngor hyd at 2026 yn nodi'i fwriadau i atal digartrefedd yn y ddinas, gweithio gydag elusennau a darparwyr tai allanol.

Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Bydd y cynllun newydd hwn yn rhoi cyfeiriad clir i ni i allu symud ymlaen gyda'n holl bartneriaid i sicrhau bod y rheini mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael cefnogaeth

"Nawr wrth i'r argyfwng costau byw ddechrau effeithio ar bawb, byddwn yn sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar waith ar gyfer y rheini y mae ei hangen arnynt."

Close Dewis iaith