Cyfleusterau gwefru i berchnogion cerbydau trydan ar gael ledled y ddinas
Bydd perchnogion cerbydau trydan yn cael y cyfle i wefru eu ceir wrth iddynt fod yn y siopau neu ar daith i'r traeth.
Mae pedwar ar bymtheg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn 12 o feysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor ac mae bron pob un ohonynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad.
Mae'r ychwanegiadau diweddaraf yn golygu bod 42 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan bellach mewn 25 o leoliadau ar draws y sir a weithredir gan y cyngor, gan gynnwys naw yn y maes parcio De Bae Copr newydd sydd o dan Arena Abertawe.
Mae pob un ohonynt yn gallu gwefru dau gerbyd ar y tro, ac o'r rhwydwaith newydd, dim ond y mannau gwefru ym meysydd parcio Bae Bracelet a'r Llaethdy yn y Mwmbwls sy'n aros i ddod ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hefyd bum man gwefru ychwanegol ar gael unwaith y bydd maes parcio Gogledd Bae Copr yn agor.
Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, y bydd y pwyntiau gwefru yn hwb go iawn i berchnogion ceir trydan a'i nod yw annog rhagor o bobl i ystyried newid o gerbydau petrol neu ddiesel yn y dyfodol.
Meddai, "Mae'r mannau gwefru a osodwyd yn ddiweddar wedi'u dewis yn dilyn trafodaethau ag aelodau ward a grwpiau a sefydliadau eraill. Maent wedi'u gosod mewn mannau sy'n gyfleus i'r rheini sy'n ymweld â'r ddinas am y dydd a'r rheini sy'n siopa mewn cymunedau lleol.
"Mae'r cwmni cyfleustodau bellach wedi cysylltu bob un ond dau o'r mannau gwefru â'r prif gyflenwad a byddant yn gwasanaethu ein cymunedau am flynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd, "Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fod yn gyngor carbon sero-net erbyn 2030 ac i'r ddinas gyfan gyrraedd y targed hwnnw erbyn 2050.
"Y pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yw'r cam diweddaraf i'r cyfeiriad cywir a'n bwriad yw cynyddu eu niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Ond megis dechrau yw hyn."
Mae Cyngor Abertawe hefyd yn arwain trwy esiampl ar gerbydau trydan, gyda'r nod o gwblhau ei newid o gerbydau petrol a diesel traddodiadol i gerbydau allyriadau isel iawn dros y blynyddoedd nesaf.
Mae gan y cyngor y cerbydlu mwyaf o gerbydau trydan yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod a'i nod yw ychwanegu 25 o gerbydau ychwanegol yn ystod y misoedd nesaf at y 60 y mae eisoes yn eu gweithredu.
Mae rhestr lawn o leoliadau rhwydwaith gwefru'r ddinas ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cerbydautrydan
1. Maes Parcio East Burrows
2. Maes Parcio Pell Street
3. Maes Parcio Trawler Road
4. Maes Parcio Trwyn Abertawe,
5. Maes Parcio Pontarddulais, Water Street
6. Maes Parcio Gorwydd Road, Tre-gŵyr
7. Maes Parcio Vardre Road, Clydach
8. Maes Parcio Gorseinon, Lime Street (gyferbyn â chlwb rygbi Gorseinon)
9. Maes Parcio Treharne Road, Treforys
10. Maes Parcio'r Baddon
11. Parcio a Theithio Glandŵr x3
12. Parcio a Theithio Fabian Way x3
13. Maes Parcio Porth Einon
14. Maes Parcio De Bae Copr x5
15. Maes Parcio'r Strand
16. Maes Parcio Clun (Blackpill)
17. Maes Parcio Aml Lawr y Cwadrant
18. Maes Parcio Knab Rock,
19. Y Rec x3
20. Maes Parcio Northampton Lane x3
21. Maes Parcio Bae Langland
22. Maes Parcio Aml Lawr y Stryd Fawr x3
23. Maes Parcio'r Llaethdy
24. Maes Parcio Bae Caswell
25. Maes Parcio Bae Bracelet