Toglo gwelededd dewislen symudol

Heol newydd i gyrchfan ymwelwyr poblogaidd yn Abertawe

Mae'r briff ffordd i un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Abertawe'n cael ei hadnewyddu.

patch

Caiff rhan o'r ffordd drwy'r Mwmbwls sydd wedi'i defnyddio'n helaeth ei hailwynebu er mwyn iddi barhau i groesawu preswylwyr ac ymwelwyr i'r Mwmbwls am lawer o flynyddoedd i ddod.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ran o Mumbles Road (o'r gyffordd â Newton Road) a bydd bron 400 metr ychwanegol o darmac newydd yn cael ei osod ar ei hyd.

Mae'r gwelliannau mawr i'r briffordd yn rhan o ymdrechion Cyngor Abertawe i uwchraddio rhannau o rwydwaith ffyrdd y ddinas.

Yn ystod yr hydref, mae modurwyr eisoes wedi elwa o bron i dri chilometr o arwynebau ffyrdd ar hyd Pentregethin Road yng Nghwmbwrla, Castle Street yng Nghasllwchwr, Pentre Road ym Mhontarddulais a Coalbrook Road ym Mhengelli.

Gosodir 2.5 cilometr arall o ffordd newydd rhwng nawr a mis Chwefror 2023 fel rhan o gynlluniau ailwynebu ar hyd Mumbles Road, Birchgrove Road a Carmarthen Road.

Mae'r gwaith arfaethedig yn rhan o fuddsoddiad gwerth £6.4 miliwn y cyngor mewn yn isadeiledd priffyrdd ar gyfer 2022/23.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Mumbles Road yn brif ffordd trwy Abertawe i bentref y Mwmbwls ac mae llawer o draffig yn gyrru ar ei hyd bob dydd. Mae'r llwybr wedi'i nodi fel un y mae angen gwaith uwchraddio sylweddol arno er mwyn estyn ei oes a'i gwneud yn haws i bobl deithio ar ei hyd.

"Mae ein timau Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi bod yn brysur iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn mynd i'r afael â ffyrdd eraill sydd hefyd wedi'u nodi fel rhai y mae angen gwaith adnewyddu mawr arnynt.

"Dyma fuddsoddiad sylweddol gan y cyngor a bydd y gwaith yn parhau yn ystod gweddill 2022 ac yn parhau i'r flwyddyn newydd.

"Yn ffodus, rydym wedi gallu cynllunio gwneud y gwaith yn ystod y nosweithiau er mwyn lleihau tarfu ar y rheini sy'n teithio ar hyd y ffyrdd."

Cwblheir y gwaith diweddaraf ochr yn ochr â chynllun atgyweirio ffyrdd parhaus y cyngor, PATCH, a ddechreuodd yn yr haf, gyda chriw cynnal a chadw yn ymweld â phob ward yn y ddinas er mwyn ymdrin â'r problemau gwaethaf ar y ffyrdd ledled Abertawe.

Bydd y cynllun PATCH yn parhau tan fis Ebrill 2023 a bydd yn rhoi cyfle i'r cyngor gwblhau gwaith atgyweirio llai lle nad oes angen gwaith cynnal a chadw mawr wedi'u cynllunio.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae'r fenter lwyddiannus a hirsefydlog PATCH yn ategu ein cynlluniau ailwynebu trwy ymdrin â phroblemau llai. Mae'n gweithredu ar sail rota wrth i dimau ymweld â phob ward yn y ddinas trwy gydol y prosiect.

"Rwy'n hyderus y bydd preswylwyr a modurwyr yn gweld gwelliannau yn y ddinas o ran ein hymdrechion i sicrhau bod ein ffyrdd o safon uchel o hyd."

Close Dewis iaith