Bargeinion i'w cael cyn y Nadolig yn siop ailgylchu'r ddinas
Gall preswylwyr Abertawe fachu bargen ar gyfer y Nadolig ym mhrif Ganolfan Ailgylchu'r ddinas.
Mae siop lwyddiannus Trysorau'r Tip Cyngor Abertawe - y siop sydd ar safle Canolfan Ailgylchu Llansamlet - yn llawn dop o eitemau cartref a roddwyd gan breswylwyr.
Gellir prynu popeth o gelfi, beiciau, setiau teledu, ornaments, dillad, CDs a DVDs yn y siop.
Datblygwyd y siop gan y cyngor sawl blwyddyn yn ôl i ddargyfeirio eitemau o safleoedd tirlenwi a'u galluogi i fynd i deuluoedd y mae arnynt eu hangen.
Ers hynny, mae miloedd o eitemau cartref pob dydd wedi cyrraedd y siop ac wedi'u gwerthu i deuluoedd yn y ddinas.
Mae'r siop wedi cael ei hehangu hefyd yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan fwy na dyblu maint y siop wreiddiol.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae Trysorau'r Tip wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae preswylwyr wedi gweld gwerth mewn rhoi eitemau neu alw heibio i gael gafael ar fargen.
"Yn flaenorol, mae'n bosib y byddai llawer o'r eitemau sydd bellach yn cael eu rhoi i'r wedi cyrraedd safle tirlenwi, ac roeddem am sicrhau bod defnydd da yn cael ei wneud o'r eitemau hyn.
"Gyda'r argyfwng costau byw cyfredol, ni fu erioed amser gwell na nawr i brynu eitemau cartref yn y siop. Gwyddwn fod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig wrth baratoi at y Nadolig. Y gobaith yw y gall teuluoedd arbed rhywfaint o arian a chael rhai o'r pethau sydd eu hangen arnynt er mwyn cael Nadolig da.