Ydych chi'n frwdfrydig dros ein cefn gwlad lleol?
Mae gan Abertawe a Gŵyr rai o'r ardaloedd cefn gwlad prydferthaf yn y wlad.
Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn mwynhau cerdded, beicio a marchogaeth ar hyd milltiroedd o lwybrau cerdded a llwybrau ceffyl yn Abertawe a Gŵyr.
Mae grŵp arbennig, sef Fforwm Mynediad Lleol Abertawe yn helpu i sicrhau'r mynediad gorau i gefn gwlad ar gyfer ein preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae'n awyddus i recriwtio aelodau newydd.
Bydd canlyniadau'r fforwm yn hysbysu'r cyngor a sefydliadau eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru ar sut y gallwn wella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhad o'r ardal.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r fforwm, e-bostiwch chris.dale@abertawe.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/fforwmmynediadlleol