Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweledigaeth fodern ar gyfer cartrefi newydd mewn cymuned yn Abertawe

Mae gweledigaeth tymor hir i greu cartrefi ynni effeithlon newydd mewn cymuned yn Abertawe yn cael ei datgelu.

brokesby road

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio gyda phenseiri i ddatblygu cynlluniau ar gyfer mwy na 100 o gartrefi newydd ar hen dir tai yng nghymuned Bôn-y-maen.

Mae nifer o safleoedd wedi'u nodi ar hyd Brokesby Road ym Môn-y-maen lle gallai'r cartrefi newydd gael eu datblygu, gan greu cymuned fodern newydd a mynd i'r afael â'r prinder tai cynyddol yn y ddinas.

Bydd preswylwyr yr ardal yn gallu cael cip ar y prosiect mewn arddangosfa sy'n cael ei chynnal lle gall pobl leol weld y cynlluniau cynnar a rhoi eu barn amdanynt.

Bydd y cyngor yn ceisio atgynhyrchu'r rhinweddau cynaliadwy sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn lleoliadau eraill ar draws Abertawe lle mae cartrefi cyngor newydd wedi'u creu, gan gynnwys safleoedd yng Ngellifedw, Blaen-y-maes a'r Clâs.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rydym yn y camau cynnar iawn o gynlluniau i ddatblygu rhagor o dai cyngor newydd yn Abertawe.

"Nid yw'n gyfrinach fod cynghorau ledled y wlad dan bwysau oherwydd y prinder tai i deuluoedd a phobl sengl.

"Rydym wedi nodi nifer o safleoedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer tai ac wedi ymgysylltu â phenseiri i ddatblygu prif gynllun ar gyfer y safleoedd hyn, sy'n dangos ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer adeiladu rhagor o gartrefi.

"Ein nod fydd sicrhau cyllid fel y gallwn wireddu'r weledigaeth hon a chreu mwy na 100 o gartrefi newydd yng nghymuned Bôn-y-maen. Bydd pob cartref yn ynni effeithlon ac yn defnyddio technolegau newydd arloesol i gadw costau ynni'n isel.

"Mae'r cynlluniau hefyd yn ceisio creu cymunedau mwy diogel, gan gynnwys mwy o fannau gwyrdd a mannau chwarae i deuluoedd eu mwynhau."

Bydd preswylwyr cyfagos nawr yn cael y cyfle i weld y cynlluniau mewn arddangosfa leol a byddant yn gallu siarad â thimau tai'r cyngor am y cynlluniau.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dwsinau o dai cyngor newydd wedi cael eu hadeiladu ar draws y ddinas gyda'r cyngor yn croesawu'r defnydd o dechnolegau newydd er mwyn sicrhau bod y cartrefi ymysg y rhai mwyaf modern yng Nghymru.

Disgwylir i'r datblygiad diweddaraf yn West Cross, sy'n cynnwys datblygu chwe byngalo ynni-effeithlon, gael ei gwblhau yn yr ychydig fisoedd nesaf a disgwylir i denantiaid newydd symud i mewn unwaith y bydd wedi'i gwblhau.

 Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Mae'r cartrefi newydd yn West Cross yn enghraifft arall o'n hymrwymiad i greu cartrefi newydd yn y ddinas, gan ddefnyddio technolegau arbed ynni modern.

"Rydym yn gyffrous i fod yn cwblhau'r cynllun hwn yn y misoedd nesaf ac i weld tenantiaid newydd yn symud i mewn."

 

Close Dewis iaith