Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwpl yn y llys am werthu tybaco anghyfreithlon

Mae twyllwyr yn cael eu rhybuddio nad oes unman i guddio yn Abertawe i bobl sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon a allai fod yn beryglus.

illegal tobacco

Daeth y neges ar ôl i gwpl o Abertawe gael eu dal gyda mwy na 140,000 o sigaréts anghyfreithlon a bron i 20kg o dybaco rholio wedi'u cuddio mewn siop yn Mansel Street.

Cafodd y cwpl eu dal yn dilyn cyfres o gyrchoedd gan swyddogion safonau masnach, yr heddlu a chŵn synhwyro a ddaeth o hyd i guddfannau ar gyfer nwyddau â gwerth stryd o fwy na £176,000.

Clywodd Llys y Goron Merthyr ar 5 Ionawr fod Simona Adamova a Jamal Karimi wedi gwerthu nwyddau tybaco anghyfreithlon o siop yr oedden nhw'n ei rhedeg o'r enw Stokrotka Supermarket yn Mansel Street.

Plediodd Karimi'n euog i nifer o gyhuddiadau gan gynnwys twyll a throseddau o dan y ddeddf Nodau Masnach ym mis Mai 2022. Cafodd ei ddedfrydu i 38 mis yn y carchar a bu'n rhaid iddo dalu costau o £2,750.

Plediodd Adamova'n euog i nifer o droseddau nodau masnach a diogelu defnyddwyr a chafodd ei chadw ar fechnïaeth i'w dedfrydu. Ffodd i'r Weriniaeth Tsiec, ond dychwelodd yr wythnos diwethaf a chafodd ei chadw yn y ddalfa cyn y gwrandawiad dedfrydu ddoe.

Yn Llys y Goron Merthyr plediodd hithau'n euog hefyd i fethiant i ildio i fechnïaeth a chafodd ei dedfrydu i gyfanswm o ddwy flynedd yn y carchar wedi'u gohirio am ddwy flynedd, fforffediad o £2,750 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £156.

Clywodd y llys fod y cwpl wedi'u harestio ar ôl i gŵn chwilio arbenigol sy'n gallu mynd gyda swyddogion i mewn i siopau lleol a synhwyro tybaco sydd wedi'i guddio yno helpu i ddarganfod y troseddau.

Nid yw tybaco ffug yn mynd drwy'r un rheolaethau gweithgynhyrchu â thybaco cyfreithlon ac yn aml caiff ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio cynhwysion niweidiol ychwanegol ochr yn ochr â'r tybaco.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023