Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîmau priffyrdd yn Abertawe'n mynd i'r afael â phroblem tyllau yn y ffordd dros y gaeaf

Mae cannoedd o dyllau yn y ffordd a achoswyd gan dywydd gwael wedi cael eu hatgyweirio gan dimau cynnal a chadw priffyrdd yn Abertawe

pothole repair

Mae Cyngor Abertawe'n cadw at ei addewid i atgyweirio tyllau yn y ffordd yr adroddir amdanynt ar-lein o fewn 48 awr, ac mae'n annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw dyllau yn y ffordd maent yn dod ar eu traws fel y gellir ymdrin â nhw cyn gynted â phosib.

Dywedodd y cyngor fod y tywydd diweddar wedi darparu'r amodau perffaith ar gyfer tyllau yn y ffordd gyda glaw trwm a rhew yn torri arwynebau ffyrdd dros nos.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y cyngor ym mis Tachwedd eleni, wedi atgyweirio 526 o dyllau yn y ffordd drwy ei wasanaeth atgyweirio 48 awr a chwblhawyd 5,041 o atgyweiriadau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein timau cynnal a chadw Priffyrdd wedi bod yn gwneud gwaith gwych wrth ymateb i nifer mawr o adroddiadau am dyllau yn y ffordd sydd wedi cyrraedd oddi wrth y cyhoedd.

"Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, pan mae'r tywydd yn llawer mwy oer a gwlyb, rydym yn disgwyl derbyn mwy o adroddiadau a chwblhau rhagor o atgyweiriadau.

"Roedd y penwythnos olaf ym mis Rhagfyr yn arbennig o brysur ac atgyweiriom fwy na 100 o dyllau yn y ffordd mewn deuddydd yn unig - dyma'r cyfartaledd a geir fel arfer ar gyfer wythnos.

"Gwnaethom addewid i atgyweirio tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr i'n canolfan alwadau gael gwybod amdanynt ac yn gyffredinol rydym wedi cadw at yr addewid honno gyda thua 98% ohonynt yn cael eu hatgyweirio o fewn yr amserlen honno.

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, roedd timau cynnal a chadw dros y gaeaf y cyngor hefyd yn brysur yn brwydro yn erbyn tymereddau rhewllyd wrth raeanu'r ffyrdd. Yn ystod wythnos y Nadolig, roedd y timau graeanu wedi teithio cyfanswm o 4,000km, gan sicrhau bod y priffyrdd yn cael eu trin gyda graean.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens; "Mae llawer o'r staff sy'n atgyweirio ffyrdd hefyd yn gyfrifol am raeanu ffyrdd. Mae hwn yn rhoi llawer o bwysau ar y timau i wneud yr hyn sy'n ofynnol a sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i fodurwyr.

"Maent wedi gwneud gwaith gwych wrth gadw'r ffyrdd mewn cyflwr da. Rwy'n gobeithio bydd y cyhoedd yn gweld y gwaith da maent yn ei wneud ac yn cefnogi eu hymdrechion.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023