Toglo gwelededd dewislen symudol

Statws Croesawu Maethu yn cael ei ddyfarnu i'r cyngor

Mae Cyngor Abertawe wedi cael ei gydnabod am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i staff sy'n darparu gofal maeth i blant.

Foster Friendly English logo

Yr elusen genedlaethol flaengar, Y  Rhwydwaith  Maethu, sydd wedi dyfarnu statws Croesawu Maethu i'r cyngor.

Mae hyn yn cydnabod y polisïau y mae'r cyngor wedi'u rhoi ar waith gan gynnwys hyd at bum niwrnod o wyliau â thâl i gefnogi a helpu'r plentyn i ymgartrefu yn ei gartref, mynd i gyfarfodydd perthnasol, ymgymryd â hyfforddiant ac ar gyfer argyfyngau o ganlyniad i'w rôl fel rhiant maeth.

Mae angen amrywiaeth o bobl sydd â sgiliau a phrofiadau gwahanol ar wasanaeth maethu'r cyngor, Maethu Cymru Abertawe, i faethu.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, Louise Gibbard, "Mae Cyngor Abertawe'n gwerthfawrogi'r cyfraniad i'r gymuned a wneir gan bob rhiant maeth.

"Rwy'n falch iawn bod yr ymrwymiad hwn wedi cael ei gydnabod gan Y Rhwydwaith Maethu trwy ddyfarnu statws Croesawu Maethu."

I gael rhagor o wybodaeth am faethu a'r hyn y mae'n ei olygu, ewch i www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru neu ffoniwch 0300 555 0111.