Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau cerdded a beicio newydd yn helpu i ehangu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy'r ddinas

Mae cyfleoedd i gerdded a beicio yn Abertawe'n cynyddu wrth i dri llwybr ychwanegol gael eu creu ar draws y ddinas.

grovesend active travel

Mae llwybrau beicio a cherdded pwrpasol oddi ar y ffordd yn cael eu datblygu gan Gyngor Abertawe rhwng Gorseinon a Phenllergaer, ar hyd Ynysallan Road ger Heol Las a rhwng Treforys a chylchfan Ynysforgan.

Mae'r holl lwybrau'n darparu cysylltiadau hanfodol â rhwydweithiau beicio a cherdded presennol a bydd yn galluogi preswylwyr i ddewis ffyrdd amgen o deithio rhwng un gymuned i'r llall. 

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y cysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy'n ychwanegu dros 4 cilomedr at rwydwaith cynyddol Abertawe o lwybrau teithio llesol yn y ddinas.

Ariennir yr holl lwybrau drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac fel rhan o hyn dyfarnwyd dros £7 miliwn i'r cyngor yn gynharach eleni i greu'r llwybrau yn ogystal â chynlluniau pellach nad ydynt wedi cael eu rhoi ar waith eto.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym yn gwneud cynnydd gwych ar y llwybrau newydd rydym yn eu datblygu yn y ddinas.

"Mae pob un ohonynt yn helpu i barhau gyda'r gwaith rydym wedi'i gwblhau yn ystod blynyddoedd blaenorol i ehangu ein rhwydwaith o lwybrau gerdded a beicio diogel oddi ar y ffordd. Mae sicrhau bod y llwybrau hyn yn cysylltu â'i gilydd yn ein helpu i greu rhwydwaith ar draws y ddinas y bydd pobl yn ei ddefnyddio ac yn ei werthfawrogi fel ffordd fwy cynaliadwy o deithio o le i le.

Un llwybr diweddar a agorwyd yn ffurfiol i'r cyhoedd yw'r rhan rhwng Pengelli a Phontarddulais a welodd dwsinau o blant ysgol lleol yn ymuno â grwpiau beicio i deithio ar hyd y llwybr am y tro cyntaf.

Mae'r llwybr ym Mhengelli wedi gwneud defnydd o hen drac rheilffordd nad yw'n cael ei ddefnyddio sy'n llawn tyfiant ac sydd bellach wedi'i adfywio, gan helpu pobl leol i ddysgu rhagor am eu treftadaeth ddiwydiannol.

Yn ogystal â chwblhau llwybrau'n ddiweddar, mae'r cyngor hefyd am ddechrau gwaith ar lwybr arall oddi ar y ffordd sy'n ymestyn ar draws Comin Clun rhwng pentref Llandeilo Ferwallt a Mayals Road.

Yn dilyn cwblhau llwybr ar hyd Mayals Road y llynedd, bydd y cynlluniau diweddaraf yn galluogi preswylwyr penrhyn Gŵyr i gerdded a beicio rhwng penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe'n ddiogel.

 

Close Dewis iaith