Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif ffordd yn Abertawe yn barod am waith gwella

Bydd prif ffordd drwy gymuned yn Abertawe'n cael ei thrawsnewid gydag arwyneb ffordd newydd.

road resurfacing

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu ailwynebu bron i gilomedr (900m) o'r ffordd, y nodwyd ei bod mewn cyflwr gwael.

Caiff y gwelliannau ar hyd Cecil Road yn Nhre-gŵyr eu cwblhau fel rhan o waith cynnal a chadw arfaethedig parhaus y cyngor ar gyfer priffyrdd yn y ddinas.

Ar hyn o bryd mae'r timau cynnal a chadw priffyrdd yn gweithio i wella Townhill Road gan osod arwyneb newydd ar 600m o'r ffordd.

Mae'r ddau gynllun yn ffurfio rhan o fuddsoddiad y cyngor gwerth miliynau o bunnoedd i wella ffyrdd ac mae hefyd yn cynnwys y rhaglen atgyweirio PATCH ar draws y ddinas, yn ogystal â'r cynllun atgyweirio tyllau yn y ffordd 48 awr llwyddiannus.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Nodwyd bod angen gwelliannau ar Cecil Road trwy ein harchwiliadau priffyrdd rheolaidd.

"Bydd ein timau cynnal a chadw'n symud i'r ffordd yn ystod y dyddiau nesaf i gwblhau'r gwaith."

Bydd rhan o'r rhaglen yn cynnwys cael gwared ar fesurau tawelu traffig presennol er mwyn cwblhau'r gwaith ailwynebu.

Mae'r ffordd wedi elwa o arian Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn flaenorol er mwyn helpu i greu amgylchedd mwy diogel yn agos at ysgolion lleol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Unwaith y bydd y gwaith ailwynebu wedi'i gwblhau ar hyd Cecil Road, bydd ein tîm rheoli traffig yn cynnal arolygon cyflymder rheolaidd. Bydd canlyniadau'r arolygon yn darparu gwybodaeth i wneud penderfyniad pellach ynghylch a fydd rhai o'r mesurau tawelu traffig neu bob un ohonynt yn cael eu hailosod."

Mae timau priffyrdd hefyd ar daith yn llenwi tyllau yn y ffordd sy'n effeithio ar nifer o rannau o'r wlad o ganlyniad i dywydd oer a gwlyb dros gyfnod y gaeaf.

Yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr roedd y timau cynnal a chadw wedi llenwi dros 750 o dyllau yn y ffordd yr adroddwyd amdanynt i'r cyngor gan y cyhoedd.

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Mae ein hymateb i dyllau yn y ffordd yr adroddir amdanynt yn rhywbeth rydw i'n falch iawn ohono. Fel nifer o ddinasoedd a threfi ar draws y wlad, mae ein ffyrdd wedi dioddef ond rydym wedi cadw at ein haddewid o atgyweirio tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr. Mae'r timau wedi bod yn brysur iawn yn sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel."