Toglo gwelededd dewislen symudol

Y gaeaf hwn yn un o'r prysuraf i dimau graeanu Abertawe

Mae criwiau graeanu Cyngor Abertawe wedi bod ar y ffyrdd eto'r wythnos hon yn dilyn y dychweliad i dywydd rhewllyd ar draws y rhanbarth.

gritting

Mae timau graenu'r cyngor wedi bod yn brysurach nag mewn blynyddoedd blaenorol hyd yn hyn y gaeaf hwn oherwydd cyfnod hir o dymereddau isel a thywydd gwlyb yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Hyd yn hyn y gaeaf hwn, mae chwe cherbyd graenu'r cyngor wedi teithio cyfanswm o 27,500km yn ystod 35 taith o gwmpas y ddinas.

Bob tro y caiff penderfyniad ei wneud i drin arwynebau ffyrdd, defnyddir pob un o'r chwe cherbyd, ac maent yn teithio cyfanswm o 450km, gan gymryd tua 7 awr i gwblhau'r gwaith.

Mae cyfanswm o 2,200 tunnell o halen wedi'i wasgaru ar hyd prif ffyrdd yn y ddinas ynghyd â sicrhau bod yr 890 o finiau graean sydd wedi'u gwasgaru o gwmpas cymunedau yn y ddinas wedi'u llenwi cyn cyfnod y gaeaf.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym wedi cael misoedd o dymereddau isel y gaeaf hwn, gan olygu y bu'n rhaid defnyddio'n timau graeanu'r gaeaf yn weddol reolaidd.

"Ein prif nod yw sicrhau bod yr holl brif ffyrdd yn y ddinas yn cael eu trin fel y gellir cadw traffig i symud a sicrhau bod cludiant cyhoeddus a cherbydau brys yn gallu teithio'n ddiogel.

"Rydym yn trin tua hanner o'r rhwydwaith ffyrdd cyfan yn y ddinas. Mae'n amlwg na allwn raeanu pob stryd a ffordd yn Abertawe ac felly mae'n bwysig bod modurwyr hefyd yn ofalus wrth deithio yn ystod amodau rhewllyd.

"Darperir biniau graeanu yn ein holl gymunedau, wedi'u lleoli'n strategol, fel y gall preswylwyr helpu eu hunain i halen y gallant ei ddefnyddio i'w wasgaru ar balmentydd ger eu cartrefi.

"Yr wythnos hon, mae ein timau wedi bod allan ar y ffyrdd eto wrth i dymereddau ostwng eto.

"Maen nhw wedi gwneud gwaith da y gaeaf hwn i gadw'r ddinas i symud."

Os hoffech wybod lleoliad un o'r 800+ o finiau graeanu yn eich cymuned, gallwch fynd i wefan y cyngor i wirio'r lleoliad a hefyd gysylltu â'r cyngor os oes angen ail-lenwi'r bin.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Mae gennym fwy nag 800 o finiau ar wasgar o gwmpas Abertawe. Fel y gallwch ddychmygu, mae'n cymryd cryn ymdrech i sicrhau eu bod i gyd yn llawn ac rydym yn gweithio tri i bedwar mis cyn cyfnod y gaeaf fel y gallwn gyrraedd pob un ohonynt.

"Os yw'r un ger eich cartref yn wag mae'n hawdd cysylltu a rhoi gwybod amdano fel y gallwn fynd allan i'w ail-lenwi."

I gael rhagor o wybodaeth am lwybrau graeanu a lleoliadau biniau graean, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/graeanu

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023