Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrch gan Safonau Masnach ar siopau sy'n gwerthu e-sigaréts anghyfreithlon

Mae mwy na 5,000 o e-sigaréts anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu o sawl siop yn Abertawe.

illegal vape

Roedd y camau gweithredu a gymerwyd gan dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â'r heddlu lleol, yn rhan o ymgyrch ddeuddydd i fynd i'r afael â gwerthiannau e-sigaréts anghyfreithlon i blant dan oed yn y ddinas.

Cafodd y cyngor gymorth rhai gwirfoddolwr dan oed i brynu naw eitem mewn siopau gwahanol yn ystod y ddau ddiwrnod.

Roedd nifer o siopau a dargedwyd yn ystod yr ymgyrch wedi gwerthu e-sigaréts a oedd yn cynnwys nicotin i'r gwirfoddolwyr a oedd i gyd dan 18 oed. Arweiniodd hyn at weithredu ar saith warant, lle atafaelwyd dros 5,000 o e-sigaréts anghyfreithlon Atafaelwyd £15,000 mewn arian parod o'r mangreoedd busnes hefyd ac arestiwyd pedwar person.

Yn ogystal â'r e-sigaréts anghyfreithlon yn cael eu gwerthu i blant dan oed, nid oedd yr e-sigaréts yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol ac nid oeddent wedi'u cofrestru â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Roedd yr e-sigaréts yn cynnwys y maint anghywir o hylif a chanfuwyd bod rhai 0% nicotin yn cynnwys nicotin.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r ymgyrch ddiweddaraf hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth darfu ar rai o'r gwerthiannau anghyfreithlon i blant yn ein dinas.

"Yr hyn sy'n peri pryder yw ein bod wedi atafaelu nifer mawr o e-sigaréts a hysbysebwyd fel rhai heb unrhyw nicotin o gwbl, ond roeddent yn cynnwys nicotin mewn gwirionedd. Mae hyn yn anghyfreithlon ac yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o ddod yn gaeth i nicotin.

"Y rheswm dros lwyddiant ein hymgyrch yn rhannol yw'r wybodaeth rydym wedi'i chael gan y cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i fynegi pryder am siopau sy'n dal i werthu e-sigaréts i blant dan oed.

"Byddwn yn annog y cyhoedd i gysylltu â'n Tîm Safonau Masnach os ydynt yn pryderu am siop sy'n gwerthu e-sigaréts yn anghyfreithlon yn eu cymuned. Byddwn yn parhau i weithredu i amddiffyn pobl ifanc yn Abertawe."

Close Dewis iaith