Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffïoedd newydd rhatach ym meysydd parcio canol dinas Abertawe

Mae ffïoedd parcio newydd rhatach i fodurwyr sy'n ymweld â chanol dinas Abertawe'n cael eu cyflwyno ddydd Llun 24 Gorffennaf.

car park image 1

Mae Cyngor Abertawe'n lansio ei gynllun ffïoedd parcio 1-2-3-4-5 newydd er mwyn helpu i gefnogi modurwyr a busnesau lleol yng nghanol y ddinas.

Mae'r ffïoedd newydd yn golygu na fydd modurwyr sy'n parcio ym meysydd parcio canol y ddinas* sy'n eiddo i'r cyngor yn talu mwy na £5 i barcio drwy'r dydd.

Mae'r cynllun hefyd yn golygu y bydd yr awr gyntaf yn costio £1, bydd dwy awr yn costio £2, a bydd parcio drwy'r dydd yn costio £5.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "O ddydd Llun, bydd modurwyr yn talu £1 yr awr i barcio ym meysydd parcio canol y ddinas ac yn talu £5 yn unig i barcio drwy'r dydd, sy'n golygu taw ni yw un o'r dinasoedd rhataf yn y DU o ran parcio.

 "Mae ein cynlluniau diweddaraf yn rhan o'n hymrwymiad i fusnesau, gweithwyr canol y ddinas ac ymwelwyr â chanol y ddinas i sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian wrth barcio yng nghanol y ddinas.

"Mae'r cyngor yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi busnesau lleol, yn ogystal â helpu i leihau'r pwysau ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau."

Mae'r ffïoedd newydd yn dilyn dau gynnig 'parcio am ddim' ar y penwythnos, gyda'r diweddaraf yn cael ei gynnal y penwythnos hwn (22/23 Gorffennaf). Mae'r cynnig yn caniatáu i fodurwyr barcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio canol y ddinas* sy'n eiddo i'r cyngor ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae'r cynlluniau diweddaraf wedi'u croesawu gan arweinwyr busnes yng nghanol y ddinas, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor i sefydlu'r ffïoedd.

 *Nid yw'r cynnig yn cynnwys maes parcio aml-lawr Bae Copr.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Gorffenaf 2023