Teithiau am ddim ar fysus yn Abertawe ar gyfer gwyliau'r haf
Mae menter bysus am ddim Cyngor Abertawe'n dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf, gan gynnig teithio am ddim o fewn y ddinas.

Mae cynnig bysus am ddim Abertawe'n golygu bod preswylwyr yn gallu teithio ar gludiant cyhoeddus yn y ddinas am gyfanswm o 20 o ddiwrnodau rhwng 28 Gorffennaf a 28 Awst ac mae'n gweithredu bob penwythnos (dydd Gwener i ddydd Llun).
Mae'r fenter deithio am ddim a arweinir gan y cyngor bellach yn ei thrydedd flwyddyn o weithredu ers iddi gael ei lansio yn ystod gwyliau haf 2021 ac mae miloedd o bobl wedi manteisio ar y cyfle i deithio am ddim i siopa, gweld ffrindiau am goffi, ymweld â thirnodau lleol neu fynd i'r traethau hyfryd ar hyd yr arfordir.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Hon oedd y fenter gyntaf o'i bath yng Nghymru i gynnig teithiau ar fysus am ddim i bawb ac mae pobl wedi mynd ar bron hanner miliwn o deithiau yn ei ddau haf cyntaf.
"Ar adeg pan mae pob un ohonom yn gorfod ymdrin â'r argyfwng costau byw a rhenti a morgeisi sy'n codi, bydd dychweliad cynnig bysus am ddim Abertawe yn cael ei groesawu gan lawer o deuluoedd.
"O'r adborth rydym wedi'i gael yn y gorffennol, mae'n amlwg ei fod wedi helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd i fynd i leoedd y byddent wedi cael trafferth fforddio ymweld â nhw fel arall.
"Mae'r cynnig bysus am ddim ar ben cynigion parcio yng nghanol y ddinas rhatach ac am ddim rydym hefyd yn bwriadu eu cyflwyno yn yr wythnosau i ddod."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae gwyliau haf yr ysgol yn gallu bod yn gyfnod drud i deuluoedd sy'n awyddus i gadw eu plant yn brysur. Mae ein menter bysus am ddim yn rhoi'r cyfle i bawb deithio o amgylch ein dinas hyfryd ac yn sicrhau eu bod yn gallu arbed eu harian ar gyfer yr amrywiaeth eang o atyniadau sydd ar gael."
"Yn ogystal â bod yn gyfle i nifer o bobl arbed arian, mae'r fenter hefyd yn gynnig gan y cyngor i annog rhagor o bobl yn y ddinas i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy ac i adael y car gartref.
"Mae cost gynyddol tanwydd yn rhywbeth sy'n ei wneud yn anodd i berchnogion ceir felly rydw i'n hyderus y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o bobl yn dewis y bws yn lle yr haf hwn."
Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe, tan 7pm ar ddiwrnodau pan fo'r cynnig ar waith.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig i deithio ar fysus am ddim, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/bysus