Statws y faner werdd i barciau Abertawe
Mae chwech o brif barciau Abertawe wedi ennill statws baner werdd, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r amgylchedd naturiol.
Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Llewelyn, Parc Cwmdoncyn a Pharc Victoria oll wedi cadw statws y faner bwysig.
Rheolir yr holl barciau gan Gyngor Abertawe ac maent yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Mae parciau Abertawe'n rhai o'r 280 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru i ennill y statws.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein dinas yn ffodus iawn o gael rhai parciau hardd iawn rydym yn falch iawn ohonynt ac yn gweithio'n galed i'w cynnal.
"Mae pob un yn darparu man lle gall teuluoedd ac ymwelwyr ymlacio, cael hwyl a mwynhau'r awyr agored. Rwyf wrth fy modd bod y lleoliadau hyn wedi'u cydnabod ar lefel genedlaethol."
Mae dwy Wobr y Faner Werdd arall hefyd wedi'u rhoi i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe a Choedwig Cwm Penllergaer.
Mae cyfanswm o 14 o 'wobrau cymunedol' hefyd wedi'u rhoi i erddi a mannau gwyrdd cymunedol llai yn Abertawe, gan gynnwys Gardd Gymunedol Clydach, a Pharc Coed Bach.
Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae'n wych gweld nifer mawr o erddi cymunedol yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw'n ei gynnig i breswylwyr. Mae hyn yn bennaf oherwydd grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i ofalu am y mannau gwyrdd hyn a sicrhau, lle bynnag rydych chi'n byw yn Abertawe, fod rhywle gerllaw y gall teuluoedd ymweld ag ef."
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus, "Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau.
"Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein lleoedd gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol ar y safleoedd hyn."