Toglo gwelededd dewislen symudol

Myfyrwyr Abertawe yn cymryd rhan mewn ymdrech ailgylchu'r ddinas

'Sortwch e' ac ailgylchwch eich gwastraff cartref yw'r cyngor i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd i Abertawe.

student recycling

Nawr bod y flwyddyn astudio newydd wedi dechrau yn y ddinas, mae swyddogion ailgylchu Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i ddosbarthu cannoedd o gitiau ailgylchu cartref i fyfyrwyr sy'n byw mewn ardaloedd preswyl felly maent yn gwybod yn union beth y gellir ei ailgylchu yn y cartref a phryd y caiff y deunyddiau eu casglu.

Anfonwyd mwy na 1,500 o becynnau dechrau ailgylchu i eiddo a rentir yn y ddinas, gan gynnwys yr holl dai amlfeddiannaeth yn Uplands a Brynmill.

Bydd myfyrwyr sy'n byw yn St Thomas a Phort Tennant hefyd yn derbyn pecynnau ailgylchu a chyngor ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth yn gywir.

Mae swyddogion ailgylchu hefyd yn curo ar ddrysau'n wythnosol mewn ardaloedd myfyrwyr, cyn ac ar ôl casgliadau biniau wythnosol arfaethedig. Y bwriad yw atgoffa myfyrwyr o'u diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu a pha ddeunyddiau sy'n cael eu casglu.

Mae digwyddiadau ailgylchu dros dro hefyd wedi'u cynnal ym Mharc Singleton lle gall myfyrwyr sy'n mynd yn ôl ac ymlaen i ddarlithoedd ym Mhrifysgol Abertawe gasglu cyfarpar ailgylchu ychwanegol neu siarad â'r tîm ailgylchu am unrhyw broblemau y gallai fod ganddynt gyda chasgliadau.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae wythnosau cyntaf y tymor yn gallu bod yn rhai eithaf anodd a phrysur i fyfyrwyr sy'n newydd i'r ddinas, felly mae angen i ni wneud yr hyn y gallwn i'w gwneud mor hawdd â phosib iddynt ddod yn gyfarwydd â gwasanaethau megis ailgylchu.

"Bydd y pecynnau rydym wedi'u hanfon i fyfyrwyr sy'n byw yn ein dinas yn rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ymuno â'r mwyafrif o breswylwyr eraill yn Abertawe, a'n helpu i ailgylchu gwastraff cartref.

"Mae hefyd yn bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol o ddyddiau casglu fel ein bod yn gallu osgoi cael sachau ailgylchu wedi'u gadael ar y stryd gan greu llanast."

"Bydd swyddogion ailgylchu hefyd yn monitro'r strydoedd lle mae'r pecynnau wedi cael eu dosbarthu, ac yn cynnig help ychwanegol i fyfyrwyr sy'n byw yn y ddinas os maent yn gweld sachau pinc yn cael eu gadael yn ystod wythnos werdd, ac i'r gwrthwyneb.

"Nid ydym yn disgwyl i'n preswylwyr newydd gael popeth yn iawn y tro cyntaf felly rydym am sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir fel nad ydynt yn gwneud camgymeriadau yn y dyfodol."

Mae'r cyngor hefyd wedi datblygu gwe-dudalennau arbennig ar gyfer myfyrwyr lle gallant ddod o hyd i'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt am y ddinas, gan gynnwys gwasanaethau cludiant, casgliadau gwastraff a lleoedd o ddiddordeb - www.abertawe.gov.uk/myfyrwyr