Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe bellach wedi cychwyn

Mae Cyngor Abertawe ar gamau cynnar paratoi ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

City centre from above (August 2022)

Mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru ddrafftio CDLl drafft, sy'n nodi ei gynlluniau tymor hir ar gyfer datblygiad, gan gynnwys tai, hamdden, mannau gwyrdd a safleoedd ar gyfer busnes.

Un o'r camau cyntaf oll wrth gynhyrchu'r CDLl newydd yw rhoi cyfle i unrhyw un â diddordeb mewn ardal o dir gyflwyno 'safleoedd ymgeisiol' i'w hystyried, i'w cynnwys yn y CDLl newydd. Mae'r cam 'Galwad am Safleoedd' yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd yn  parhau tan 31 Hydref 2023. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/safleoeddymgeisiol

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Cymerodd flynyddoedd lawer i baratoi'r CDLl presennol ar gyfer Abertawe a bu'n destun ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd, busnesau a grwpiau â diddordeb.

"Rydym am i'r cyhoedd fod yn rhan o baratoi'r cynllun newydd a sicrhau bod barn pobl yn cael ei hystyried wrth baratoi'r cynllun.'

"Bydd y CDLl newydd yn cael effaith fawr ar sut bydd Abertawe'n edrych yn y dyfodol a bydd yn effeithio ar breswylwyr ac ymwelwyr mewn sawl ffordd. Bydd yn penderfynu i ba ddiben y gellir defnyddio tir yn y ddinas, fel ar gyfer tai newydd, cyflogaeth a mannau agored ymysg defnyddiau eraill.

"Mae paratoi CDLl yn weithgaredd cymhleth y mae'n rhaid i bob awdurdod lleol ymgymryd ag ef ac rydym am ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd ar yr un nesaf ar gyfer Abertawe.

Cam allweddol nesaf proses y CDLlN fydd nodi amcanion cyffredinol y cynllun  ac opsiynau twf strategol. Bydd y rhain yn diffinio sut, ac i ba raddau, y dylai Abertawe dyfu. Gwahoddir yr holl randdeiliaid â diddordeb i roi mewnbwn i'r cam hwn o'r broses creu cynllun.

 Rhagwelir y bydd y cyngor yn cyhoeddi ei Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLlN yn haf 2024, a fydd yn destun ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd am isafswm o chwe wythnos cyn y cytunir wedyn ar fersiwn derfynol.

Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn darparu'r fframwaith strategol i gynhyrchu polisïau a chynigion manylach a dyraniadau tir mwy penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y CDLlN ac i gofrestru'ch manylion fel y gallwch gael y newyddion diweddaraf, ewch i wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/CDLlN neu e-bostiwch y tîm yn  cdll@abertawe.gov.uk

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Medi 2023