Hen swyddfa dai ardal yn cael ei thrawsnewid yn fflatiau
Mae ymdrechion i fynd i'r afael â digartrefedd yn parhau yn dilyn cwblhau set newydd of fflatiau dan berchnogaeth y cyngor.
Mae Cyngor Abertawe wedi trawsnewid cyn swyddfa dai ardal sy'n heneiddio yng nghymuned Pen-lan yn chwe fflat un a dwy ystafell wely fodern.
Mae'r gwaith diweddaraf yn rhan o ymdrechion parhaus y cyngor i gynyddu ei stoc dai i bobl sengl a theuluoedd yn ogystal â defnyddio hen adeiladau'r cyngor nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.
Mae pum fflat dwy ystafell wely ac un fflat un ystafell wely, dros dri llawr bellach ar safle hen SDA Pen-lan. Maent i gyd yn elwa o nodweddion modern gyda cheginau, ystafelloedd ymolchi newydd ac ardaloedd byw eang.
Bydd pob un o'r chwe fflat yn darparu llety dros dro mawr ei angen i deuluoedd ac unigolion sy'n aros i gael eu cartrefu mewn cartrefi parhaol.
Disgwylir i bedair fflat arall gael eu cwblhau ar safle Swyddfa Dai Ardal Eastside gynt.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r gwaith i ailddatblygu'r hen swyddfa dai ardal wedi creu cryn argraff arnaf. Mae ein Tîm Gwasanaethau Adeiladau unwaith eto wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn floc swyddfa hen ffasiwn yn llety mawr ei angen.
"Yn achos yr ailddatblygiad hwn, rydym wedi achub ar y cyfle i greu cartrefi dros dro, yr ydym yn brin ohonynt.
"Bydd y fflatiau newydd yn rhoi llawer mwy o opsiynau i ni i ddarparu cartrefi dros dro ac mewn argyfwng i deuluoedd a phobl sengl sydd ar ein rhestr aros am dai parhaol. Mae hwn o fudd enfawr i'n hymdrechion i atal digartrefedd yn Abertawe"
Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu dau gartref cyngor newydd yn flaenorol, yng nghymuned Gorseinon.
Gorffennwyd y ddau dŷ pâr, tair ystafell wely yn ddiweddar mewn eiddo ar Alexandra Road yng Ngorseinon. Roedd yr adeilad yn hen ganolfan seibiant yr oed dy cyngor wedi nodi nad oedd ei angen mwyach.
Mae chwe byngalo dwy ystafell wely wedi cael eu cwblhau hefyd yn West Cross ac fe'u datblygwyd i lasbrint 'Safon Abertawe y cyngor, gan ddarparu cartrefi cynaliadwy, ynni-effeithlon gydag agweddau arbed ynni arloesol megis toeon solar a gwresogi ffynhonnell daear.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad a wnaethom i gynyddu a gwella ein stoc tai fel y gallwn leihau rhestrau aros a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol.
"Mae ein menter Rhagor o Gartrefi yn ceisio adeiladu 1,000 o dai cyngor ynni effeithlon newydd, o fewn deng mlynedd - y prosiect adeiladu tai cyngor mwyaf ers cenhedlaeth."