Toglo gwelededd dewislen symudol

Yn dod yn fuan - cenhedlaeth newydd o gyfleusterau sglefrio ar gyfer Abertawe

Bydd pobl sy'n dwlu ar sglefrio a beicio BMX yn Abertawe'n mwynhau cenhedlaeth newydd o gyfleusterau o'r radd flaenaf dan gynlluniau gan Gyngor Abertawe.

Mumbles Skatepark.

Neilltuwyd dros £1m ar gyfer cyfarpar newydd a fydd yn helpu i roi hwb i chwaraeon sy'n tyfu mewn poblogrwydd ar draws y ddinas.

Mae bellach wedi penodi'r arbenigwyr rhyngwladol arobryn, Curve Studio - sydd wedi dylunio a rheoli gwaith creu parciau sglefrio ar draws y DU ac Ewrop - i helpu i ddechau'r gwaith mewn cymunedau ar draws y ddinas a'n helpu i gyflwyno gwelliannau a chyfleusterau newydd i helpu'r chwaraeon hyn i ffynnu.

Mae Abertawe'n gartref yn barod i bencampwyr chwaraeon ar olwynion o'r gorffennol a rhai presennol, gan gynnwys y beiciwr BMX Olympaidd James Jones, ac mae rhwydwaith llwyddiannus o glybiau a chefnogwyr sydd wedi gweithio'n galed i hyrwyddo'r angen am gyfleusterau gwell.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am greu'r rhwydwaith cymunedol gorau o'r cyfleusterau sglefrio, beicio BMX a chwaraeon ar olwynion ymysg yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

"Mae Curve Studio yn gweithio gyda phobl sy'n dwlu ar chwaraeon ar olwynion a'n cymunedau sglefrio a BMX sefydledig i ddylunio mannau y bydd pobl yn dwlu arnynt. "Byddant yn gweithio gyda'r gyngor i wireddu'r breuddwydion hyn."

Dros yr ugain blynedd diwethaf, mae Curve Studio wedi gweithio gyda phartneriaid yn Llundain, Dyfnaint, Eastbourne, Gogledd Iwerddon a Norwy i greu parciau sglefrio a llwybrau BMX poblogaidd. Maent wedi cwblhau'r parc sglefrio mwyaf gogleddol yn byd yn Norwy'r Arctig.

Yn Abertawe, cam cyntaf gwaith Curve Studio fydd adolygu'r ddarpariaeth bresennol a gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, grwpiau lleol a sefydliadau i lunio uwchgynllun o fuddsoddiadau posib i'r Cabinet eu hystyried.

Yn ystod cam dau, bydd Curve Studio yn goruchwylio caffael unrhyw waith adeiladu a buddsoddiad mewn safleoedd er mwyn cyflwyno gweledigaeth y cyngor o genhedlaeth newydd o gyfleusterau sglefrio a chwaraeon ar olwynion ar gyfer y ddinas.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Hydref 2023