Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Adfer Natur i warchod a gwella amgylchedd naturiol Abertawe

Mae cynllun tymor hir i helpu i warchod amgylchedd naturiol Abertawe ar fin cael ei gymeradwyo.

Lliw Resevoir

Mae Tîm Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau partner yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl).

Mae'r cynllun yn nodi'r amcanion a'r camau gweithredu allweddol sy'n mynd i'r afael â materion sy'n achosi dirywiad mewn bioamrywiaeth yn Abertawe. Bydd hefyd yn cynorthwyo Abertawe i gyflawni'r amcanion cenedlaethol ehangach a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddatganodd argyfwng natur ym mis Mehefin 2021, a ddilynwyd yn agos gan yr un datganiad gan Gyngor Abertawe ym mis Tachwedd 2021.

Mae'r cynllun drafft, a fydd yn cael ei ystyried i'w gymeradwyo gan Gabinet y cyngor, yn cynnwys 25 o gamau gweithredu allweddol a fydd yn arwain grwpiau partneriaid o fewn Partneriaeth Natur Leol Abertawe a sefydlwyd ym 1999 ac sy'n cynnwys mwy na 50 o grwpiau a sefydliadau yn Abertawe.

Mae'r cynllun newydd, sy'n cwmpasu 2023-2030, hefyd yn darparu cymorth, syniadau a chyngor i bawb yn y sir, gan gynnwys ysgolion, busnesau a theuluoedd sy'n byw yn Abertawe, i'w helpu i weithredu dros natur.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol,"Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Abertawe sy'n cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys gweundiroedd ucheldirol, glaswelltiroedd, coetiroedd, gwlyptiroedd, morydau, clogwyni arfordirol yn ogystal â thwyni tywod a rhostiroedd.

"Mae'r cyngor hwn yn cydnabod bod colli bioamrywiaeth yn fygythiad sydd yr un mor ddifrifol i'n goroesiad yn y dyfodol ag y mae newid yn yr hinsawdd. Mae natur yn cyfrannu cymaint at ein hiechyd a'n lles, gan ddarparu gwasanaethau ecosystem hanfodol fel cynhyrchu bwyd, storio carbon, aer a dŵr glân, atal llifogydd yn ogystal â darparu cyfleoedd hamdden, ymlacio a chysylltu â natur.

"Nod y cynllun drafft yw gwreiddio'i amcanion ym mhob agwedd ar y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r hyn sydd yn gennym yn Abertawe a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i'w warchod.

"Mae llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo ac mae wedi bod yn barhaus ers nifer o flynyddoedd. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau partner i warchod a gwella cynefinoedd ledled Abertawe, gan wella ein bioamrywiaeth.

"Erbyn 2030, rydym am sicrhau bod o leiaf 30% o Abertawe yn cael ei gwarchod a'i rheoli'n effeithiol ar gyfer byd natur."

Bydd y Cabinet yn ystyried y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe mewn cyfarfod ar 19 Hydref.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Hydref 2023