Toglo gwelededd dewislen symudol

Canmol darllenwyr ifanc yn nigwyddiad gwobrwyo'r ddinas

Canmolwyd pobl ifanc ledled Abertawe am eu brwdfrydedd dros ddarllen.

Ready Set Read2023

Ready Set Read2023

Canmolwyd y bobl ifanc gan wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe ar ôl iddynt ragori yn Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol y ddinas. Cafodd eraill eu hanrhydeddu am wirfoddoli mewn llyfrgelloedd o amgylch Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae staff ein llyfrgell wrth wraidd eu cymunedau, ac roedd yn bleser ganddynt amlygu'r ffaith fod pobl ifanc yn dwlu ar lyfrau a darllen."

Cyflwynir y sialens gan The Reading Agency a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru a dyma raglen darllen er pleser fwyaf y DU i blant oedran ysgol gynradd.

Yn Abertawe, ymunodd bron 2,900 o blant â'r sialens eleni, gyda thua 1,460 o blant yn ei chwblhau drwy ddarllen chwe llyfr dros yr haf.

Yn ystod y sialens, benthycodd llyfrgelloedd Abertawe fwy na 53,000 o lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-lyfrau i blant. Roeddent yn cefnogi menter eleni ar thema 'Ar eich marciau, darllenwch!', gyda thua 360 o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan ddenu mwy na 6,750 o blant.

Cynhaliwyd y digwyddiad gwobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, a bu Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas, yn cyflwyno tystysgrifau i ddarllenwyr ifanc lleol a gwblhaodd y fenter Ar eich marciau, darllenwch!

Diolchwyd i'r gwirfoddolwyr ifanc a fu'n cefnogi gweithgareddau mewn llyfrgelloedd dros yr haf.

Llun: Carole Billingham, Llyfrgellydd, yn nigwyddiad gwobrwyo Sialens Ddarllen yr Haf Llyfrgelloedd Abertawe.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Hydref 2023