Toglo gwelededd dewislen symudol

Nofio am ddim i blant yn ystod yr haf ym Mhwll Cenedlaethol Cymru

Os ydych yn chwilio am rywle i'r plant ddianc am ddim rhag y gwres yn ystod yr haf, efallai mai Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yw'r lle perffaith i chi.

wales national pool wnp splash play

Mae'n cynnig sesiynau Sblasio a Chwarae am ddim i blant dan 16 oed o ddydd Llun i ddydd Sadwrn bob wythnos tan ddiwedd mis Awst.

Ar ben hynny, mae sesiynau nofio i'r teulu ar gael bob diwrnod sydd am ddim i blant dan 5 oed.

Bydd rhieni/gofalwyr yn talu uchafswm o £6.50, neu lai yn achos consesiynau a deiliaid Pasbort i Hamdden.

Rhaid i ymwelwyr gadw eu lleoedd yn y sesiynau ymlaen llaw er mwyn sicrhau na fyddant yn colli eu cyfle ar y diwrnod.

Cadwch le drwy ffonio'r pwll ar 01792 513 513, drwy fynd i wefan Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe neu drwy ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae manylion ar gael yn Hafan Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Mae llawer o weithgareddau am ddim neu â chymhorthdal yn cael eu cynnal i deuluoedd yn Abertawe yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

***

Dyma naw syniad i chi'r wythnos hon.

A chofiwch, gallwch deithio am ddim ar fysus ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.

Mae llawer mwy o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u rhestru ar ein gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau

1 - Dydd Mawrth 6 Awst - Sgiliau criced yng Nghlwb Criced Tregŵyr

2 - Dydd Mercher 7 Awst - Bydd Circus Eruption yng Nghanolfan Gymunedol Trefansel

3 - Dydd Mercher 7 Awst - Shine Drama Workshops yn Neuadd Gymunedol y Cocyd

4 - Dydd Mercher 7 Awst - Dathlwch Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

5 - Dydd Iau 8 Awst - Beiciau cydbwysedd a chwarae yn yr LC

6 - Dydd Gwener 9 Awst - Sesiynau Hwyl yng Nghanolfan Galw Heibio Blaen-y-maes

7 - Dydd Gwener 9 Awst - Gwenerau offer chwyddadwy yn y pwll yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol

8 - Dydd Sul 11 Awst - Bownsio a chwarae yng Nghanolfan Hamdden Treforys

9 - Os yw'r tywydd yn braf bydd taith i'r Parc Sglefrio yn West Cross.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Awst 2024