Abertawe Gydnerth - Creu cymuned wyrddach a chryfach
Rydym yn gweithio gyda'n cymunedau i ddatblygu cynlluniau i helpu'n cymunedau i symud tuag at ddyfodol sero net - a gallwch chi gymryd rhan.
Enw'r fenter yw Abertawe Gydnerth ac rydym eisoes wedi cynnal chwe gweithdy yn y Trallwn, Mayhill, Coleg Tŷ Coch, Ysgol Gynradd Llanrhidian, Pontarddulais a Chanolfan Dylan Thomas. Rydym yn cynnal chwe gweithdy arall dros yr wythnos nesaf a gallwch ymuno drwy'r ddolen hon:
Mae'r syniadau a'r adborth rydym wedi'u derbyn hyd yn hyn wedi bod yn wych. Mae'r angerdd, y gonestrwydd a'r gofal y mae pobl yn eu dangos tuag at eu cymunedau wedi bod yn anhygoel. Unwaith y bydd y gweithdai wedi dod i ben, byddwn yn edrych ar y ffyrdd y gallwch ein helpu i gymryd y camau nesaf tuag at greu dyfodol gwerth ei fyw, gydag amgylchedd sy'n gyfoethog o ran natur a chydag iechyd a lles pawb yn ganolog iddo.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan drwy fynd i'r dudalen Abertawe Gydnerth ar wefan Cyngor Abertawe:
https://www.abertawe.gov.uk/abertawegydnerth
#PosiectSeroAabertawe #NewidHinsawdd #AbertaweGydnerth