Toglo gwelededd dewislen symudol

Terfyn Cyflymder 20mya Cymru - y diweddaraf am ganllawiau Llywodraeth Cymru

Pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth 20mya gan Lywodraeth Cymru eleni, adolygodd Cyngor Abertawe'r holl ffyrdd, gan eithrio mwy o ffyrdd rhag y terfyn 20mya nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru.

20mph sign

Yn dilyn y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae adolygiad arall o ffyrdd yn Abertawe wedi dechrau sy'n canolbwyntio ar ffyrdd y gallai'r canllawiau newydd effeithio arnynt.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r canllawiau newydd ar ddiwedd mis Gorffennaf ac ers hynny mae swyddogion traffig yn y ddinas wedi ystyried y posibilrwydd o adfer terfyn cyflymder rhagor o ffyrdd neu rannau o ffyrdd i 30mya.

Gall preswylwyr bellach gysylltu â thîm traffig Cyngor Abertawe a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gellid eu cynnwys, yn unol â'r canllawiau sydd newydd eu cyhoeddi - https://www.llyw.cymru/fframwaith-newydd-i-gefnogi-cynghorau-ar-20mya

Mae rhai ffyrdd eisoes yn cael eu hystyried gan y Cyngor yn dilyn adborth gan breswylwyr, gan gynnwys Mayals Road, rhan o Mynydd Newydd Road a rhan o Llangyfelach Road. Newidiodd pob un ohonynt yn awtomatig i'r terfyn cyflymder is, sef 20mya, pan gyhoeddwyd y canllawiau gwreiddiol.

Os hoffech gyflwyno awgrymiadau i'w cynnwys yn yr adolygiad parhaus, mae croeso i chi e-bostio traffig@abertawe.gov.uk

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2024