Credyd Pensiwn
A ydych yn adnabod rhywun o oedran pensiwn y wladwriaeth (66 oed neu'n hŷn) sy'n ennill incwm isel ac a fyddai'n croesawu arian ychwanegol a chymorth gyda chostau gwresogi?
Os felly, a wnewch chi roi gwybod iddo am Gredyd Pensiwn Pension Credit: Overview - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae Credyd Pensiwn yn werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd ac mae'n arwain at gymorth ychwanegol, gan gynnwys Taliadau Tanwydd Gaeaf, cymorth gyda Threth y Cyngor a gofal deintyddol y GIG, ynghyd â thrwydded deledu am ddim i'r rhai hynny sy'n hŷn na 75 oed.
Diolch i reolau ôl-ddyddio Credyd Pensiwn, mae'n bosib cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac ôl-ddyddio'r hawliad hyd at dri mis, ar yr amod bod hawl gan yr unigolyn i gael Credyd Pensiwn yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn golygu mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais a dal i fod yn gymwys i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf yw 21 Rhagfyr 2024.