Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i Ŵyl Fwyd gyntaf erioed penrhyn Gŵyr

Bydd un o leoliadau mwyaf prydferth Cymru yn arddangos doniau ym maes bwyd a diod fel rhan o ŵyl fwyd gyntaf penrhyn Gŵyr ddydd Sadwrn 7 Medi.

Gower food and drink fest

Bydd elusennau lleol hefyd yn elwa o'r digwyddiad a fydd yn cynnig amrywiaeth eang o fwyd a diod a gynhyrchwyd yn lleol.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan grant Llywodraeth y DU drwy fenter Angori Gwledig Cyngor Abertawe.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio,  Thwristiaeth a Digwyddiadau, "Rydyn ni bob amser wedi gwybod bod cefn gwlad harddaf Cymru yn wledd i'r cannoedd ar filoedd o ymwelwyr rydym yn eu croesawu bob blwyddyn.

"Nawr, am y tro cyntaf, gall bobl fwynhau gwledd o fwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu ym mhenrhyn Gŵyr.

"Hyd yn hyn mae ein menter Angori Gwledig wedi cefnogi mwy na 30 o brosiectau cymunedol ar draws Abertawe, gyda llawer ohonynt o fudd i benrhyn Gŵyr. Mae'r cyfan yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Abertawe i gefnogi swyddi, busnesau a chymunedau ar draws y ddinas."

Bydd y busnesau a fydd yn cynnig danteithion lleol yn cynnwys Tir a Môr Bakes, Gower Preserves, Wild and Rare, cynhyrchwyr cig sydd wedi bod yn gwerthu cynnyrch ym Marchnad Ffermwyr y Mwmbwls ers dros 20 mlynedd, yn ogystal â gwerthwyr bwyd a diod annibynnol eraill o Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd a de Cymru.

Rhagor o wybodaeth yma:https://www.facebook.com/profile.php?id=61561599803197

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2024