Toglo gwelededd dewislen symudol

Timau atgyweirio ffyrdd yn Abertawe'n ymladd yn ôl yn erbyn difrod sy'n gysylltiedig â thywydd gwael

Mae Timau Priffyrdd Cyngor Abertawe wedi bod allan ar draws y ddinas yn atgyweirio rhannau o ffyrdd sydd wedi cael eu difrodi gan dywydd gwael iawn yn y gorffennol.

SRS highway repairs

Fel rhan o raglen Cynllun Ailwynebu Bach y Cyngor, mae timau cynnal a chadw wedi canolbwyntio'u hymdrechion ar fynd i'r afael â ffyrdd mewn cymunedau sydd wedi cael eu nodi fel rhai y mae angen gwaith atgyweirio arnynt.

Maent yn cynnwys Quarr Drive yng Nghlydach, Swansea Road - Llewitha a Lôn Heddwch yng Nghraig-cefn-parc.

Mae'r rhaglen yn rhan o fuddsoddiad £8.1 miliwn y Cyngor mewn cynnal a chadw priffyrdd yn Abertawe ac mae'n ategu at raglenni atgyweirio eraill sy'n mynd rhagddo, gan gynnwys cynlluniau ailwynebu llawn sy'n parhau i gael eu cwblhau.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r timau sydd gennym allan ar y ffyrdd yn gwneud gwaith gwych gan atgyweirio'r rhannau o ffyrdd y mae angen sylw arnynt.

"Mae'r cynllun hwn yn elfen bwysig o'n rhaglen cynnal a chadw priffyrdd gyffredinol ac mae'n sicrhau ein bod ni'n cwblhau'r holl waith atgyweirio ar draws Abertawe.

"Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi'n helaeth mewn atgyweirio ffyrdd eleni gyda dros £8 miliwn yn mynd tuag at gynlluniau ailwynebu mawr, gwaith atgyweirio llai yn ogystal â gwaith i wella palmentydd a gosod goleuadau stryd newydd."

Mae defnydd da eisoes wedi'i wneud o rywfaint o'r gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25 gyda nifer o lwybrau allweddol yn y ddinas yn elwa o waith ailwynebu llawn. Mae'r ffyrdd yn cynnwys Cockett Road, Llwynmawr Road - Tŷ Coch a rhan o'r A483 Penllergaer.

Llenwyd mwy na 7,500 o dyllau yn y ffordd hefyd yn 2023/24 ac atgyweiriwyd bron pob un ohonynt o fewn yr addewid 24 awr a wnaed gan y Cyngor.

Gall preswylwyr adrodd am dyllau yn y ffordd i'r Cyngor ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd a gall modurwyr gael y newyddion diweddaraf am waith ffyrdd ar draws y ddinas drwy edrych ar yr adroddiad Gwylio Ffyrdd wythnosol yn www.abertawe.gov.uk/gwylioffyrdd

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024