Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith cynnal hanfodol yn cael ei wneud ar goed yng nghanol y ddinas

Mae ein Tîm Gwasanaethau Coed yn gwneud gwaith cynnal coed hanfodol yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd.

city centre trees

Mae'r gwaith yn cynnwys tocio canghennau mawr ar rai o'r coed i helpu i ddiogelu eu hoes, gan gynnwys ar hyd Union Street.

Byddwn hefyd yn tocio canghennau ar rai coed ar hyd prif ffyrdd canol y ddinas lle mae eu tyfiant wedi arwain at guddio camerâu teledu cylch cyfyng a rheoli traffig.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Rydym yn ffodus bod llawer o goed yn tyfu yng nghanol ein dinas o fewn ardaloedd siopa ac ar hyd prif lwybrau i mewn ac allan o'r ddinas.

"O bryd i'w gilydd, mae angen i'n tîm cynnal coed sicrhau bod y coed yn tyfu mewn modd diogel ac nad ydynt yn effeithio ar adeiladau eraill neu gyfarpar canol y ddinas fel systemau teledu cylch cyfyng.

"Yr hyn sy'n bwysig yw na fydd angen cael gwared ar unrhyw goed yn gyfan gwbl wrth wneud y gwaith hwn."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2024