Toglo gwelededd dewislen symudol

Ychwanegu rhan newydd o lwybr at Lwybr Arfordir Gŵyr yn dilyn erydu arfordirol

Mae rhan o lwybr arfordir Gŵyr y mae erydu arfordirol wedi effeithio arni yn cael ei symud ymhellach i'r tir i helpu i gynnal y llwybr cerdded poblogaidd.

rotherslade path

Mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu rhan newydd o lwybr yr arfordir sy'n 450 metr o hyd rhwng Rotherslade a Limeslade.

Mae'r gwelliannau cynlluniedig diweddaraf yn dilyn erydu arfordirol sydd wedi digwydd yn flaenorol ger y llwybr presennol ac sydd wedi annog Tîm Mynediad i Gefn Gwlad y Cyngor i geisio datblygu llwybr amgen a fydd yn helpu i gynnal y llwybr parhaus ar hyd arfordir cyfan Gŵyr.

Bydd cynlluniau'n cynnwys cyflwyno llwybr concrit 1.5 metr o led sy'n gwbl hygyrch, sy'n addas i gerddwyr, rhieni â babanod mewn bygis a hefyd bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn hwyrach y mis hwn (mis Medi) a bydd angen cau rhan o'r llwybr dros dro er mwyn i'r gwaith gael ei gwblhau.

Disgwylir i hysbysiadau o gau gael eu gosod ger y llwybr i hysbysu'r rheini sy'n defnyddio'r llwybr am y trefniadau cau yn y dyfodol.

Meddai Andrew Steven, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae llwybr arfordir Gŵyr yn gyrchfan poblogaidd y mae pobl yn mynd iddo drwy gydol y flwyddyn.

"Mae erydu arfordirol yn rhywbeth y mae angen i ni ymateb iddo pan mae'n cael effaith ar y llwybr. O ganlyniad i glogwyn ger y llwybr yn cwympo'n ddiweddar, rydym wedi gorfod gweithredu'n syth.

"Er bod y llwybr presennol yn ddiogel i'w ddefnyddio ar hyn o bryd, mae angen i ni gymryd camau gweithredu i greu llwybr newydd ymhellach i'r tir.

"Gaiff y gwaith hwn ei gwblhau yn hwyrach eleni a bydd yn ein helpu i osod rhan newydd o'r llwybr a fydd yn hygyrch.

"Yn anffodus, bydd angen i ni gau'r rhan o'r llwybr yr effeithiwyd arni er mwyn gwneud y gwelliannau'n ddiogel."

Mae'r cynllun diweddaraf hefyd yn dilyn gwelliannau blaenorol i'r llwybr yn yr un lleoliad, pan wnaed gwaith i osod 270 metr o lwybr newydd yn dilyn cwympiad tebyg o'r clogwyn cyfagos.

Ac mae 1.5 cilomedr pellach o'r llwybr hefyd wedi cael ei wella yn y gorffennol rhwng Bae Caswell a Langland.

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 lle cysylltwyd 61 cilomedr o lwybr yr arfordir er mwyn galluogi cerddwyr i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Rwy'n credu bod ein rhan ni o lwybr yr arfordir ar hyd Abertawe a Gŵyr yn cynnwys rhai o'r golygfeydd gorau sydd ar gael ar hyd arfordir Cymru gyfan. Mae wir yn syfrdanol o hardd a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb gerdded ar hyd y llwybr eto i wneud hynny."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2024