Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau troed mewn parciau'n rhan o gynllun gwella'r Cyngor

Disgwylir i lwybrau troed ar draws Abertawe elwa o fuddsoddiad ychwanegol i'w cynnal a'u cadw.

highway resurfacing

Disgwylir i Gyngor Abertawe gymeradwyo cynlluniau ffurfiol i fuddsoddi £1.2m mewn isadeiledd priffyrdd a llwybrau troed y ddinas.

Mae'r adroddiad diweddaraf y bydd Cabinet y Cyngor yn ei ystyried ar 19 Medi'n cadarnhau y buddsoddir rhan o'r cyllid (£200,000) mewn llwybrau troed mewn parciau.

Bydd buddsoddiad o bron £1 miliwn hefyd yn cael ei wario ar gynlluniau ail-wynebu ffyrdd, sy'n rhan o raglen cynnal a chadw priffyrdd pum mlynedd y Cyngor.

Bydd £60,000 pellach yn helpu i sicrhau bod y ddinas yn parhau i wella hygyrchedd i breswylwyr trwy osod cyrbau isel mewn cymunedau ar draws Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ym mis Mawrth, cymeradwyom swm sylweddol o'n cyllideb flynyddol tuag at atgyweiriadau priffyrdd ar gyfer 2024/25.

"Mae ffyrdd a glustnodwyd i'w hatgyweirio yn ystod y deuddeng mis nesaf wedi cael eu blaenoriaethu fel rhan o'n rhaglen dreigl asedau priffyrdd bum mlynedd.

"Mae'r arian ychwanegol rydym wedi'i gymeradwyo'n golygu y buddsoddwyd dros £8.1m mewn isadeiledd Priffyrdd eleni a bydd yn sicrhau y gallwn hefyd ymdrin â ffyrdd sydd wedi'u difrodi gan dywydd gwlyb a chlustnodi mwy o arian i greu cyrbau isel lle bo angen.

"Mae'r ddinas yn lwcus i gael cynifer o barciau ac rydym hefyd wedi dewis buddsoddi swm sylweddol o gyllid mewn llwybrau troed mewn parciau er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben a helpu i wella profiadau preswylwyr pan fyddant yn ymweld â pharciau."

Mae defnydd da eisoes wedi'i wneud o rywfaint o'r gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25 gyda nifer o lwybrau allweddol yn y ddinas yn elwa o waith ail-wynebu llawn. Mae'r ffyrdd yn cynnwys Cockett Road, Llwynmawr Road - Tŷ Coch a rhan o'r A483 Penllergaer.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024