Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy na 50 o ardaloedd chwarae yn Abertawe wedi'u huwchraddio

Daeth dwsinau o blant ifanc mewn cymuned yn Abertawe i agoriad swyddogol lle chwarae lleol.

ynystawe play area

Ymunodd plant ac athrawon o Ysgol Gynradd Ynystawe ag arweinydd y Cyngor, Rob Stewart ac aelodau'r ward leol ar gyfer seremoni torri rhuban arbennig yn y lle chwarae ym Mharc Ynystawe.

Mae'r gwelliant i'r ardal chwarae boblogaidd yn rhan o fuddsoddiad enfawr gwerth £7 miliwn Cyngor Abertawe mewn ardaloedd chwarae cymunedol ar draws y ddinas gyfan.

Y mis hwn, gwneir gwaith uwchraddio mewn ardaloedd chwarae eraill yn Abertawe gan gynnwys Cwmbwrla a Pharc Treforys lle mae ardal gemau amlddefnydd newydd yn cael ei gosod.

Mae gwaith gwella yn ardal chwarae Long Ridge yn Townhill, sy'n cynnwys siglenni, fframiau dringo, byrddau picnic ac ardal gemau amlddefnydd fach, bron â chael ei gwblhau fel y gall plant ei mwynhau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n wych gweld ein bod wedi gallu gwella ardal chwarae arall i blant lleol, y tro hwn yn Ynystawe.

"Mae hyn yn ychwanegu mwy na 50 o ardaloedd chwarae sydd wedi cael eu gwella fel rhan o'r buddsoddiad gwerth £7m.

"Roedd yn bleser cael bod yn yr agoriad swyddogol diweddaraf yn Ynystawe a gweld cynifer o blant hapus a oedd yn wên o glust i glust.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n bosib mai ein buddsoddiad mewn chwarae awyr agored i blant a phobl ifanc yw'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yn y DU yn y blynyddoedd diweddar.

"Dywed yr holl arbenigwyr mor bwysig yw hi i blant allu defnyddio cyfleusterau chwarae awyr agored am ddim er mwyn cymdeithasu â ffrindiau a theulu. Mae'r adborth rydym yn ei gael gan ddefnyddwyr wedi bod yn wych ac mae'n dangos y gwahaniaeth y mae'r gwelliannau'n eu gwneud yn eu cymdogaethau.

"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2024