Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau Abertawe yn cael eu tacluso a'u cymhennu

Mae timau yn Abertawe sy'n gyfrifol am gadw cymunedau'n daclus a chymen wedi bod yn gweithio'n ddiwyd unwaith eto.

cleansing ward operative team

Mae Timau Gweithredol Glanhau Wardiau poblogaidd Cyngor Abertawe yn parhau i ymateb i alwadau gan gynghorwyr cyhoeddus a lleol, drwy dargedu llwyni a choed sydd wedi tyfu'n wyllt, dadorchuddio llwybrau troed sydd wedi ildio i natur, yn ogystal â chlirio sbwriel a sicrhau bod arwyddion strydoedd a ffyrdd yn lân ac y gellir eu darllen yn haws.

Lansiodd Cyngor Abertawe fenter y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau dros 18 mis yn ôl ac maent yn ymgymryd â gwaith ychwanegol nad yw'n rhan o'u rolau glanhau arferol yn y ddinas.

Mae'r cyhoedd yn chwarae eu rhan drwy roi gwybod am faterion o fewn eu cymunedau i'w cynghorydd lleol, sydd wedyn yn cysylltu â gwasanaeth y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau.

Y rhan fwyaf o ddyddiau, mae'r timau'n teithio o gwmpas Abertawe gyda'u fan yn llawn offer, yn barod i fynd i'r afael â beth bynnag yr adroddwyd amdano.

Hyd yn hyn, ymdriniwyd â mwy na 1,300 o safleoedd ac o ganlyniad mae palmentydd a grisiau wedi'u dadorchuddio, coed bargodol wedi'u tocio a lonydd diarffordd wedi'u clirio.

Yn ystod 12 mis cyntaf y fenter, cafwyd gwared ar fwy na 40 tunnell o wastraff (gwastraff gwyrdd a chyffredinol).

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae'r Timau Gweithredol Glanhau Wardiau yn gaffaeliad go iawn i'r Cyngor, sy'n mynd gam ymhellach i gadw'n cymunedau'n daclus ac yn gymen. Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd gordyfiant yn gallu bod yn broblem mewn rhai ardaloedd.

"Mae'r gwaith y mae'r Timau Gweithredol Glanhau Wardiau yn ei wneud i dacluso cymdogaethau yn gwneud i bawb deimlo'n well am y man lle maent yn byw ac yn annog eraill i chwarae eu rhan hefyd drwy beidio â gollwng sbwriel neu adael baw cŵn ar eu hôl pan fyddant allan gyda'u hanifail anwes."

Ychwanegodd, "Mae'r fenter Timau Gweithredol Glanhau Wardiau yn rhan o ymrwymiad £2m y flwyddyn y Cyngor i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn ein cymdogaethau. Cynghorwyr lleol yw ein llygaid a'n clustiau ar gyfer y fenter Timau Gweithredol Glanhau Wardiau, ac mae'r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Os ydych chi'n meddwl bod ardal yn eich ward lle gall y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau helpu, rhowch wybod i'ch cynghorydd lleol fel y gall gyflwyno'r gwaith i'r tîm ei gwblhau ar eu hymweliad nesaf. Gallwch hefyd ddod o hyd i restr sy'n cynnwys eich cynghorwyr lleol yma www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2024