Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerflun maint go iawn o geffyl wedi'i osod ar ran o gamlas Tawe

Mae cerflun newydd trawiadol wedi cael ei ddadorchuddio yn Abertawe ar ran o'i chamlas hanesyddol.

horse sculpture

Defnyddiwyd mwy nag 800 o bedolau i greu cerflun maint go iawn o geffyl, sydd bellach yn sefyll yn falch ar ran o gamlas Tawe yng nghymuned Clydach.

Roedd ceffylau'n cael eu defnyddio i halio cychod ar hyd camlesi ledled y DU am gannoedd o flynyddoedd, tan mor ddiweddar â'r 1960au.

Mae Ollie Holman yn gyfrifol am y gwaith celf anhygoel ar ôl cael ei gomisiynu gan Gyngor Abertawe i greu'r darn.

Mae'r gwaith celf diweddaraf i gael ei ddadorchuddio yn Abertawe yn rhan o raglen Creu Lleoedd Teithio llesol Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o gyfeirio at y gorffennol mewn modd difyr, ar hyd rhannau o lwybrau cerdded a beicio teithio llesol a gwblhawyd yn flaenorol.

Cwblhaodd y Cyngor lwybr cerdded a beicio 1.5km o hyd ar lwybr halio'r gamlas yng Nghlydach. Mae teuluoedd wedi bod yn mwynhau'r llwybr ar ei newydd wedd ers iddo gael ei gwblhau yn 2022.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd yn Abertawe, "Er y cafwyd newidiadau yng Nghlydach dros y blynyddoedd, mae'r gamlas wedi bod yn nodwedd barhaus, gan gysylltu â byd diwydiant a'r gymuned. Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau gwaith i uwchraddio'r llwybr halio ar hyd y gamlas, gan ddarparu cyfleusterau cerdded a beicio ardderchog. Y gobaith yw y bydd y cerflun newydd yn atgyfnerthu profiad defnyddwyr y llwybr.

"Mae llwybrau cerdded a beicio'n parhau i gael eu datblygu ledled Abertawe, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr deithio mewn ffordd gynaliadwy ac iach.

"Er ei bod hi'n bwysig parhau i ddatblygu isadeiledd newydd ar gyfer cerdded a beicio, mae'n bwysig hefyd ddathlu'r gorffennol a chreu mannau o ddiddordeb ar hyd y llwybrau hyn i'w mwynhau gan y cyhoedd."

Meddai'r artist Ollie Holman, "Rwyf wedi bod yn gweithio gyda metel ers fy mhlentyndod, ac rwyf wedi creu llawer o ddarnau dros y blynyddoedd. Ond mae'r un hwn yn arbennig o ystyrlon i fi.

"Pan oeddwn i'n fachgen, treuliais oriau lawer ar hyd y dyfrffyrdd, gan ddod o hyd i lonyddwch ac ysbrydoliaeth yn eu tawelwch.  Mae'n destun llawenydd mawr i fi weld un o'm darnau yma, i'w fwynhau gan bobl eraill."

Mae'r cerflun newydd ei osod ar y gamlas, gyferbyn â Sied y Dynion.

Ychwanegodd Ollie, "Roeddwn i eisiau i'r cerflun gyfleu hanes yr ardal mewn ffordd sy'n ysbrydoli. Rwy'n hoffi creu dirgelwch drwy fy ngwaith, yn y gobaith y bydd pobl yn edrych yn agosach i ystyried y rhesymau pam mae yno a beth mae'n ei gyfleu." 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2024