Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif gylchfan mewn cymuned yn Abertawe i ddod yn hafan i fywyd gwyllt

Mae preswylwyr mewn cymuned leol yn Abertawe wedi helpu i ddatblygu prosiect i roi hwb i natur a chynyddu man gwyrdd.

townhill roundabout

Mae Cyngor Abertawe wedi dechrau gwaith i drawsnewid prif gylchfan yn Townhill drwy blannu rhagor o goed a phlanhigion a chreu gardd gerrig.

Mae'r cylchfan mawr yng nghanol canolfan fanwerthu Townhill yn Sgwâr Graiglwyd ac ar hyn o bryd fe'i gorchuddir â cherrig palmant yn bennaf.

Mae cyllid wedi'i sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a thrwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, caiff y safle ei drawsffurfio'n atyniad llawer gwyrddach i bobl leol a fydd hefyd yn helpu i hybu bioamrywiaeth drwy annog rhagor o fywyd gwyllt i'r lleoliad.

Cyflwynwyd y cynllun yn flaenorol i breswylwyr Townhill mewn digwyddiad cymunedol yng Nghanolfan y Ffenics yn gynharach yn y flwyddyn ac maent yn gobeithio y bydd y cynllun yn bywiogi'r ardal yn ogystal â denu gwenyn a pheillwyr eraill yn y blynyddoedd i ddod.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae llu o fannau gwyrdd i'w cael yn Abertawe, gan gynnwys llawer o barciau. Er bod hyn yn wir, mae hefyd yn bwysig i ni ystyried sut gallwn greu rhagor o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol preswyl.

"Mae'r cyllid rydym wedi'i dderbyn yn ein galluogi i weithio gyda phreswylwyr a grwpiau cymunedol i ddylunio cynlluniau fel yr un hwn yn Townhill.

"Er bod y lleoliad hwn yn ymddangos fel cylchfan yn unig i ddefnyddwyr ffordd, gydag ymagwedd arloesol, gallwn greu lleoliad ar gyfer preswylwyr a hefyd i fywyd gwyllt sy'n dibynnu ar fannau gwyrdd i ffynnu."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2024