Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gymraeg yn Abertawe yn cael canmoliaeth am ddathlu diwylliant Cymru

Mae arolygwyr ysgolion wedi canmol ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe am ddathlu iaith, hanes a diwylliant Cymru.

YGG Bryniago

Arolygwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago gan Estyn ym mis Mehefin a chanfuwyd ei bod yn un sy'n gweithio'n galed, gyda'r Pennaeth yn derbyn canmoliaeth am gael disgwyliadau uchel iawn ohoni hi ei hun ac eraill.

Nododd arolygwyr fod yr ysgol gynradd ym Mhontarddulais yn hyrwyddo'r Gymraeg yn llwyddiannus ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn hyderus. Oherwydd hyn roedd yr adroddiad arolygu'n nodi bod gan y disgyblion  ymwybyddiaeth gref o'u hardal leol yn ogystal â gwybodaeth am hanes a diwylliant Cymru.

Nodwyd bod gan y Pennaeth, Nia Jones, 'arweinyddiaeth gref' a'i bod, ynghyd â'r holl staff, yn helpu i greu amgylchedd dysgu gofalgar a diddorol.

Yn yr adroddiad meddai'r arolygwyr, "Mae athrawon yn annog disgyblion i gyfrannu at eu dysgu ac yn cynnwys eu hawgrymiadau wrth gynllunio 'bwydlen' ar gyfer themâu newydd.

"Mae staff yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion hŷn ddylanwadu ar fywyd ehangach yr ysgol trwy gyfrannu at gynghorau 'llais y disgybl', a chyfranogi mewn prosiectau sy'n cael effaith uniongyrchol ar yr ysgol."

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud, "Mae athrawon ar draws yr ysgol yn cynllunio gweithgareddau sy'n cael eu darparu i ddiwallu anghenion y disgyblion yn llwyddiannus."

Nododd arolygwyr hefyd sut mae'r ysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar draws pob ysgol yn Abertawe. Roedd yn dweud "Cydweithiodd y cyngor ysgol mewn partneriaeth ag adran arlwyo'r sir i addasu bwydlen cinio ysgolion ar draws y sir."

Meddai'r Pennaeth, Nia Jones, "Rwy'n falch iawn o'r plant a'r staff yn Ysgol Gymraeg Bryniago. Rydym yn croesawu adroddiad Estyn fel gwir adlewyrchiad o ethos yr ysgol a sut rydym i gyd yn gwerthfawrogi ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at daith addysgol ein disgyblion a chymuned yr ysgol.

"Mae'n dyst i ymroddiad a gwaith caled holl deulu'r ysgol - staff, disgyblion a rhieni.

 "Dim ond ein gorau glas sy'n ddigon da".

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2024