Mwy o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu yn Abertawe
Mae datblygiad o mwy na dwsin o dai cyngor newydd ar waith mewn cymuned yn Abertawe.
Mae gwaith paratoi tir wedi dechrau ar safle hen gyfleuster addysgol dan berchnogaeth Cyngor Abertawe o'r enw Tŷ Brondeg yng nghymuned Trefansel.
Gwnaed gwaith dymchwel yn flaenorol ar y safle ar ôl i'r adeilad sy'n heneiddio gael ei nodi fel un nad oes ei angen mwyach gan y cyngor.
Bydd y datblygiad dan arweiniad y cyngor yn creu cyfanswm o 13 o gartrefi newydd, a fydd yn cynnwys 8 o fflatiau un ystafell wely, 5 tŷ â thair ystafell wely, a bydd pob un ohonynt yn cynnwys technoleg ynni effeithlon, gan gynnwys paneli solar, storfeydd batri a gwres o'r ddaear, ac mae'r cyfan wedi'u dylunio i gadw cartrefi'n gynhesach ac i leihau biliau ynni cymaint â phosib.
Mae cam diweddaraf y gwaith yn rhan o raglen Mwy o Gartrefi ehangach y cyngor, sydd eisoes wedi creu mwy na 280 o gartrefi cyngor ychwanegol yn y ddinas.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Dyma'r cynllun diweddaraf yn ein rhaglen Mwy o Gartrefi, sy'n galluogi'r Cyngor i adeiladu mwy o dai cyngor a chynyddu'r cyfleoedd i breswylwyr symud i lety o ansawdd uchel dan berchnogaeth y Cyngor.
"Nodwyd yn flaenorol nad oedd angen Tŷ Brondeg mwyach. Mae rhan o'n strategaeth wedi cynnwys edrych ar hen safleoedd yn y ddinas dan berchnogaeth y Cyngor lle gallwn adeiladu tai newydd ac ychwanegu at ein stoc tai presennol.
"Yn bwysig, mae'r cynllun diweddaraf hwn yn cynnwys sawl eiddo ag un ystafell wely, y mae eu hangen yn Abertawe.
"Mae hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor - addawyd mwy na £55 miliwn ar gyfer tai yn 2024/25 ac rydym wedi ymrwymo i wario £250 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf.
"Rwy'n hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn dilyn yr esiampl a osodwyd gan gynlluniau Mwy o Gartrefi blaenorol yr ydym wedi'u cwblhau'n ddiweddar - gan ddarparu cartrefi modern, diogel a chynnes ar gyfer teuluoedd neu unigolion."
Gall preswylwyr ddarganfod mwy am ddatblygiadau Mwy o Gartrefi parhaus y Cyngor ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/datblygiadautaicyngornewydd