Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd angen i breswylwyr ddefnyddio canolfannau ailgylchu i ailgylchu gwastraff gardd y gaeaf hwn

Os ydych am ailgylchu gwastraff gardd y gaeaf hwn, bydd yr holl ganolfannau ailgylchu a gynhelir gan y Cyngor ar agor fel y gallwch gael gwared ar dorion gwair a pherthi, yn ogystal â brigau bach.

garden waste

Y gaeaf hwn bydd y Cyngor unwaith eto'n atal casgliadau gwastraff gardd ymyl y ffordd rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Bydd casgliadau gwastraff gardd ymyl y ffordd yn ailddechrau ar ddechrau mis Mawrth.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: "Gwnaethom dreialu'r cynllun atal casgliadau gwastraff gardd y llynedd er mwyn ystyried yr effaith y gallai hyn ei chael ar breswylwyr. Nifer bach iawn o breswylwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ystod y gaeaf - tua 5% o aelwydydd Abertawe.

"Mae bob amser cynnydd mawr yn swm yr ailgylchu cartref sy'n cael ei gyflwyno i'w gasglu yn ystod cyfnod y Nadolig a hefyd drwy gydol mis Ionawr.

"Mae hyn yn rhoi llawer o bwysau ar ein criwiau casglu a'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym. Mae'n gwneud synnwyr i beidio â chasglu gwastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn a defnyddio'r timau hyn i helpu i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff eraill.

"Bydd ein canolfannau ailgylchu ar agor fel arfer drwy gydol y gaeaf ac os oes angen i breswylwyr gael gwared ar wastraff gardd yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn hapus i'w helpu i gael gwared ar unrhyw wastraff cartref sydd ganddynt."

Am ragor o wybodaeth am ein canolfannau ailgylchu, ewch i www.abertawe.gov.uk/canolfannauailgylchu

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2024