Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorchuddio'r castell gyda Phabïau'r Coffáu

Bydd waliau Castell Ystumllwynarth yn cael eu gorchuddio mewn coch ym mis Tachwedd ar gyfer teyrnged arbennig a arweinir gan y gymuned ar gyfer tymor y cofio.

oystermouth castle poppy cascade

Mae dros 6,000 o babïau wedi cael eu gwau gan breswylwyr y Mwmbwls a chyfranogwyr o bob cwr o'r byd ar gyfer teyrnged a fydd yn rheadru o wal y castell mis nesaf.

Bydd gwaith i osod y deyrnged ar y tirnod yn dechrau ar benwythnos 4 Tachwedd gyda chymorth gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth yn y lleoliad sy'n eiddo i'r Cyngor. Disgwylir i'r cyfan fod ar waith erbyn Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad ar 11 Tachwedd.

Mae'r coffâd emosiynol yn talu teyrnged i'r miloedd o bobl leol sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog dros y blynyddoedd, o gyn-filwyr i'r rheini sydd wedi colli eu bywydau dros eu gwlad.

Y gobaith yw bydd yr arddangosfa'n annog rhagor o bobl i gyfrannu at Apêl y Pabi eleni.

Mae tîm y pabïau wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls, cadetiaid awyr lleol ac aelodau ward Cyngor Abertawe i storio a pharatoi'r pabïau i'w harddangos. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Hydref 2024