Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnydd o ran gwastraff ailgylchu cartrefi yn arwain at fân newidiadau i gasgliadau preswylwyr

Mae cynnydd o ran gwastraff ailgylchu cartrefi yn Abertawe wedi arwain at fân newidiadau i'r ffordd y mae'r Cyngor yn casglu gwastraff cartrefi oddi ar ymyl y ffordd.

O 2 Rhagfyr eleni, bydd disgwyl i breswylwyr roi eu gwastraff sachau du (gwastraff na ellir ei ailgylchu) allan bob pythefnos, ar yr un diwrnod â'u sachau gwyrdd (gwastraff ailgylchadwy).

Mae'r newid hwn oherwydd ymdrechion parhaus preswylwyr i ailgylchu'r lefelau uchaf erioed o wastraff cartref, gostyngiad o ran gwastraff sachau du a chyflwyno cerbydlu o gerbydau casglu newydd. Bydd y newidiadau hefyd yn caniatáu i'r Cyngor wneud defnydd gwell o'i griwiau casglu.

Ar hyn o bryd, ac ers nifer o flynyddoedd, mae preswylwyr wedi bod yn rhoi eu sachau du allan i'w casglu ochr yn ochr â'u casgliadau plastig pinc.

Er mwyn rhoi'r newid hwn ar waith yn effeithiol, bydd gwastraff gardd hefyd yn cael ei gasglu ar yr un pryd â chasgliadau plastig pinc pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau ym mis Mawrth.

Mae taflenni gwybodaeth am y newidiadau'n cael eu hanfon i bob cartref yn y ddinas fel bod preswylwyr yn gwybod yn union beth i'w wneud o 2 Rhagfyr. Bydd cymorth a chyngor pellach ar gael ar wefan y Cyngor.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae ein trefniadau casglu presennol ar gyfer gwastraff cartrefi wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd a chawsant eu rhoi ar waith i wneud y defnydd gorau o'r cerbydlu oedd gennym, a hefyd i gasglu'r gwahanol symiau o wastraff sachau du a gwastraff ailgylchu yn effeithlon.

"Rydym wedi gweld newid mawr o ran swm y gwastraff ailgylchu rydym yn ei gasglu o'i gymharu â gwastraff sachau du, ac mae hyn oherwydd ymdrechion preswylwyr sydd wedi ein helpu i fod yr awdurdod lleol sydd â'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru gyfan.  

"Er mwyn i ni gasglu gwastraff cartref yn fwy effeithlon yn y blynyddoedd i ddod, mae'n rhaid i ni adolygu sut rydym yn casglu o gartrefi preswylwyr.

"Nid yw'r newid yn un mawr i breswylwyr. Yn syml, rydym yn cyfnewid yr wythnosau y byddwn yn casglu gwastraff sachau du a gwastraff gardd.

"Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan breswylwyr yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddilyn y drefn newydd."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024